Dadl Democratiaid Rhyddfrydol

Cymorth

Mae'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn "cael effaith gadarnhaol ar lefelau cyrhaeddiad plant o gefndiroedd tlotach ac ar wella hyder a phresenoldeb", meddai'r Democratiaid Rhyddfrydol

Bu'r Democratiaid Rhyddfrydol yn arwain dadl ar Grant Amddifadedd Disgyblion, ar 25 Medi 2013.

Dywedodd Aled Roberts, AC gogledd Cymru, bod y Grant Amddifadedd Disgyblion wrth helpu i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol, a chau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'r rheini o gefndiroedd mwy breintiedig.

Fe wnaeth y Ceidwadwr Angela Burns groesawu'r gwaith ymchwil diweddar gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru i effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru, ond dywedodd ei bod yn "gresynu wrth y diffyg eglurder o ran deall a gweithredu'r Grant Amddifadedd Disgyblion ar draws yr ysgolion a arolygwyd".

Dywedodd yr aelod Llafur Jenny Rathbone bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi "methu â gweld y darlun llawn, trwy anwybyddu'r holl fentrau eraill sy'n digwydd yng Nghymru".

Galwodd aelod Plaid Cymru Simon Thomas am astudiaeth annibynnol gan Estyn ynghylch diben a gwerth y grant.

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.