Wood yn cyhuddo Llywodraeth y DU o ohirio ei hymateb i Silk

Cymorth

Cyhuddodd Leanne Wood AC Lywodraeth DU o ohirio ei hymateb i adroddiad cyntaf y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.

Bu arweinydd Plaid Cymru yn arwain y ddadl ar 25 Medi 2013.

Cafodd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ei lansio gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ar 11 Hydref 2011.

Ar 19 Tachwedd 2012, cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad cyntaf, a oedd yn edrych ar bwerau cyllidol, yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau i amrywio treth incwm yn amodol ar refferendwm llwyddiannus, rheolaeth dros gyfres o fân drethi polisi, pwerau benthyca a datganoli trethi busnes.

Fe wnaeth Plaid Cymru danlinellu bod yna gefnogaeth benodol dros drosglwyddo pwerau ynni adnewyddadwy (70%), plismona (63%) a darlledu a rheoleiddio'r cyfryngau (58%).

Yn ôl Ms Wood mae oedi yn ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad cyntaf y Comisiwn Silk yn annerbyniol.

Mae'r comisiwn hefyd yn cynnal arolwg barn sydd yn gorffen ar 27 Medi 2013.

Galwodd arweinydd y blaid ar ymateb brys gan lywodraeth y Du a Llywodraeth Cymru i'r ail adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi yn y Gwanwyn.

Fe wnaeth Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies amddiffyn ymateb Llywodraeth y DU i'r adroddiad cyntaf gan bwysleisio bod angen ei ystyried yn ofalus o ran ei effaith ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Cytunodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black gyda chynnig Plaid Cymru bod angen i Lywodraeth y DU ymateb ar frys i'r adroddiad cyntaf.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones hefyd fynegi siom gyda diffyg ymateb Llywodraeth y DU ar adroddiad cyntaf y comisiwn ac addawodd gefnogaeth Llywodraeth Cymru i weithredu'n llawn yr argymhellion.

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.