O blaid y Mesur Sector Amaethyddol

Cymorth

Pleidleisiwyd o blaid y Mesur Sector Amaethyddol (Cymru) yn y siambr ar 17 Gorffennaf 2013.

Pwrpas y mesur brys yw "gosod sylfaen bwysig ar gyfer gwireddu dyheadau llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu sector amaethyddol yng Nghymru".

Yn ôl y memorandwm esboniadol bydd "yn helpu'r sector i fod yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon trwy weithwyr brwd sydd wedi'u hyffordi'n dda gyda llwybr datblygu gyrfa ar eu cyfer".

Mae'r mesur Sector Amaethyddol yn cynnwys darpariaethau sy'n:

  • Cadw'r mesurau amddiffyn statudol presennol;
  • Rhoi'r pwerau i Weinidogion Cymru wneud Gorchmynion yn y dyfodol i bennu amodau a thelerau amaethyddol.
  • Rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru i gynnal swyddogaethau tebyg i'r rhai sydd gan y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ond wedi'u haddasu fwy.
  • Galluogi Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru i gynnal swyddogaethau sy'n ymwneud â gweithrediad y sector amaethyddol, gan gynnwys hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynghylch pennu isafswm amodau a thelerau.
  • Helpu i sefydlu sector amaethyddol cryf a chynaliadwy yng Nghymru sydd â gweithlu wedi'i hyfforddi'n dda.
  • Hybu ymdrechion i wella sgiliau yn y sector amaethyddol.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.