'Darparu gwasanaeth dwyieithog rhagorol' yw'r nod

Cymorth

Nod y Cynllun Ieithoedd Swyddogol yw "darparu gwasanaeth dwyieithog rhagorol" yn ôl yr aelod Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas ar 17 Gorffennaf 2013.

Dywedodd Mr Thomas fod y cynllun yn "nod uchelgeisiol" ond pe bai'r mesur yn cael ei gymeradwyo byddai'n weithredol o fis Medi 2013.

Diben y mesur yw nodi dyletswyddau'r Cynulliad Cenedlaethol a Chomisiwn y Cynulliad mewn perthynas â darparu gwasanaethau dwyieithog yn glir ar sail statudol.

Cyfeiriodd y Prif Weinidog Carwyn Jones at ddymuniad Gwynfor Evans nôl ym 1966 i gymryd ei lw yn y Gymraeg a'r siom na chafodd wneud hynny.

Ychwanegodd Mr Jones ei bod hi'n hollol arferol i aelodau heddiw i ddefnyddio'r ddwy iaith yn y cynulliad.

Wrth ymateb i Mr Jones, dywedodd yr aelod Plaid Cymru Simon Thomas fod problemau yn dal i fodoli "ar lawr gwlad" megis mewn cyfarfodydd cyngor a'i bod yn bwysig i'r cynulliad "ddangos esiampl".

Derbyniwyd y cynnig.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.