'Edifeirwch' am ohirio cynlluniau

Cymorth

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford bod penderfyniad llywodraeth y DU i ohirio cynlluniau i gyflwyno pecynnau sigaréts plaen yn "fater o edifeirwch".

Roedd yn ymateb i gwestiwn ar 17 Gorffennaf 2013 gan yr aelod Llafur Gwyn Price.

O dan y cynlluniau, byddai pob pecyn sigaréts yr un lliw, yr un ffont ac yn cario rhybudd graffig.

Mae gweinidogion llywodraeth y DU wedi gwadu ildio i'r diwydiant tybaco.

Mynegodd yr aelod Plaid Cymru Elin Jones ei siom ynghylch penderfyniad llywodraeth y DU a gofynnodd a allai Cymru gyflwyno ei pholisi ei hun.

Atebodd Mr Drakeford y bydd yn cymryd cyngor gan swyddogion Llywodraeth Cymru a fydd yn archwilio a oedd gan weinidogion ym Mae Caerdydd y pŵer i wneud hynny.

Ychwanegodd y bydd yn parhau i wneud ei farn yn hysbys i'r Adran Iechyd, a bydd yn cysylltu â Llywodraeth yr Alban ar y mater hwn.

Cyflwynwyd gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru ym mis Ebrill 2007, dri mis o flaen Lloegr.

Dywedodd gweinidogion llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf bod penderfyniad ar becynnau plaen wedi ei ohirio er mwyn asesu sut y mae cynllun tebyg yn gweithredu yn Awstralia.

Roedd cwestiynau hefyd, ymysg eraill, ar wella'r strwythur gyrfa i weithwyr gofal, gwaith amlasiantaeth i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed, a pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn 2013 i fynd i'r afael â diabetes yng Nghymru.

Roedd cwestiynau hefyd i'r cwnsler cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol y mesur Sector Amaethyddol (Cymru).

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.