Chwaraeon: Galw am ymchwiliad trylwyr

Cymorth

Mae angen ymchwiliad trylwyr i ddarganfod pam nad yw cannoedd o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y wlad yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Dyna ddywedodd Sunil Patel o elusen Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yn y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 27 Mehefin 2013.

Dywedodd Mr Patel fod "ysgolion yn allweddol" i gyfranogiad chwaraeon a bod dileu hiliaeth yn mynd law yn llaw ag addysg.

Yn ôl Mr Patel mae grŵp ymgynghori Chwaraeon Cymru wedi'i chreu o 14 aelod ac nad oes un cynrychiolydd o'r gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Ychwanegodd Ashok Ahir o'r un elsuen fod "diffyg modelau rôl" ar lefel broffesiynol a hyfforddiant a dywedodd mai dim ond un athro ymarfer corff o'r gymuned pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig oedd drwy Gymru.

Problem arferol arall yn ôl Mr Patel oedd bod prisoedd rhentu caeau chwaraeon wedi codi yn aruthrol ac yn gyffredinol mae'r gymuned Asiaidd yn ennill llai o arian na chymunedau eraill.

Dywedodd nad oes unrhyw gefnogaeth gan Griced Cymru na Chriced Morgannwg a nad oes digon o chwaraewyr ifanc a thalentog yn cael eu darganfod.

Gofynnodd yr aelod Plaid Cymru Lindsay Whittle beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hiliaeth.

Ateb Mr Patel oedd bod angen i glybiau pêl-droed wneud mwy o ymdrech gan nad yw chwaraewyr yn teimlo'n gyfforddus yn chwarae o achos hiliaeth.

Read this in Englishs

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.