'Angen model pwerau a gedwir yn ôl'

Cymorth

Dywedodd yr aelod Llafur Mike Hedges y byddai model pwerau a gedwir yn ôl yn darparu "eglurder i setliad datganoli Cymru" mewn dadl ar 26 Mehefin 2013.

Yn ôl Jocelyn Davies, aelod Plaid Cymru, "fel gwlad aeddfed rydym ar daith" a bod angen i ni " geisio am hawliau pellach".

Dywedodd Julie Morgan o'r blaid Lafur, "roeddem yn falch i gael datganoli o gwbl ym 1997" ond aeth ymlaen i ddweud fod "yr 20 ardal pwnc yn achosi dryswch".

Galwodd yr aelod Llafur Keith Davies hefyd am fodel pwerau a gedwir yn ôl ac am "aelodaeth tymor hir i Gymru" yn y DU.

Yn ystod y ddadl dywedodd y Prif Weinidog y dylai model pwerau a gedwir yn ôl ddod i Gymru a'i fod yn gwrthod y ddadl o gadw'r hen fodel.

Dywedodd Mr Jones yr achosodd yr hen fodel i fesur cyntaf y llywodraeth ddiweddu yn Y Goruchaf Lys ac y byddai model pwerau a gedwir yn ôl yn ein rhoi ni yn yr un safle a'r Alban ac Iwerddon.

Yn ei ymateb cytunodd yr aelod Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black y byddai model pwerau a gedwir yn ôl yn rhoi eglurder ac aeddfedrwydd i Gymru.

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.