'Cynnydd yn agenda comisiwn Silk'

Cymorth

Mae yna "gynnydd yn agenda comisiwn Silk" meddai'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn ystod y sesiwn cwestiynau cyllid ar 26 Mehefin 2013.

Holwyd Ms Hutt ar ei thrafodaethau diweddar gyda Thrysorlys y DU gan yr aelod Plaid Cymru Simon Thomas.

Atebodd Ms Hutt fod datblygiad yn agenda comisiwn Silk a phwysleisiodd yr angen i ddatganoli'r dreth stamp.

Holodd Jocelyn Davies o Blaid Cymru a oedd y gweinidog wedi dweud yn glir wrth wrth lywodraeth y DU ei bod hi eisiau ffordd liniaru i'r M4.

Dywedodd y gweinidog ei bod hi'n awyddus i gael pwerau benthyg er mwyn "symud yn ein blaenau".

Ychwanegodd fod cynlluniau'r M4 yn "sylweddol" ac mai "ein cynlluniau ni ydyn nhw."

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.