Dadl y Ceidwadwyr: Maes Awyr Caerdydd

Cymorth

"Mae angen cwmnïau awyrennau a chyrchfannau" oedd neges y Ceidwadwyr yn eu dadl ar y 19 Mehefin 2013.

Dywedodd arweinydd y ddadl, Byron Davies, fod y Ceidwadwyr eisiau talu talwyr treth yn ôl a gofynnodd i'r llywodraeth amlinellu eu cynlluniau, cynlluniau sydd heb ei cyhoeddi ers prynu maes awyr Caerdydd 3 mis yn ôl.

Dywedodd Mr Davies ei fod am i'r maes awyr lwyddo ond na all y llywodraeth "wthio ymlaen" heb gynllun.

Roedd e hefyd yn bryderus nad oes cysylltiad rheilffordd rhwng gorsaf ganolog Caerdydd a'r maes awyr.

Gofynnodd yr aelod Democrataidd Rhyddfrydol Eluned Parrott am ddadansoddiad gwell o'r teithwyr sy'n defnyddio'r maes awyr a'u busnes, gofynnodd i'r strategaeth awyrennau o'r llywodraeth i fod yn fanwl yn y pwyntiau yma i helpu llwyddiant y maes awyr.

Cyhuddodd Mick Antoniw o'r blaid Lafur, y Ceidwadwyr o fod yr unig rhai a gwestiynwyd prynu'r maes awyr.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart yn ei hymateb fod gan y diwydiant awyrennau rôl dyngedfennol yng Nghymru.

Yn ymateb arweinydd y blaid Geidwadol Andrew RT Davies, dywedodd fod y cyswllt awyr rhwng gogledd a de Cymru yn defnyddio swm enfawr o arian cyhoeddus a'i fod yn siomedig na all y cyswllt gael ei ddefnyddio ar benwythnosau i helpu'r diwydiant twristiaeth.

Dywedodd fod angen porth rhyngwladol ar Gymru i gyflwyno delwedd bositif o'r wlad.

Cafodd y cynnig wedi'i ddiwygio ei gymeradwyo.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.