Cwestiynau i'r gweinidog cymunedau

Cymorth

Cwestiynwyd y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi Huw Lewis ar safleoedd sipsiwn a theithwyr yn ystod ei sesiwn ar 19 Mehefin 2013.

Holodd yr aelod Ceidwadol, Mohammed Asghar, y gweinidog ar safle sipsiwn a theithwyr yn 'Queensway Meadow' yng Nghasnewydd lle ddwedodd fod yr Awdurdod Lleol yn gwrthod symud teithwyr sipsiwn.

Gofynnodd Mr Asghar a oedd y gweinidog yn cytuno fod y gwrthod yma yn rhoi'r neges anghywir fod llywodraeth Cymru yn caniatáu safleoedd sipsiwn anghyfreithlon.

Ateb y gweinidog oedd "wrth gwrs ddim", dywedodd fod y llywodraeth yn ystyried ei dyletswydd ynghylch y ddarpariaeth o safleoedd newydd yn y mesur tai a bod y llywodraeth yn cynnig nawdd i'r awdurdodau lleol i adnewyddu hen safleoedd.

Ychwanegodd nad oedd safleoedd yng Nghasnewydd ar hyn y bryd a bod "rhesymeg" yn dangos y dylai fod yn fater enbyd i Gyngor Dinas Casnewydd.

Dywedodd Mr Lewis mai mater ar gyfer yr awdurdodau lleol oedd hyn ac nad oedd hi'n addas i'r llywodraeth i ymateb ar y fath gynllun.

Aeth Mr Asghar yn ei flaen i ddweud mai dyma'r ail dro i fusnesai 'Queensway Meadow' orfod delio â gwastraff dynol, sbwriel a difrod i'w heiddo ac a fyddai'r gweinidog yn cytuno na ddylid caniatáu safleoedd anawdurdodedig.

Dywedodd y gweinidog na fyddai'n ateb ar hyn ond fod y llywodraeth yn darparu cefnogaeth ariannol 100% i'r awdurdodau lleol sy'n gallu gweithredu.

Ymatebodd yr aelod Plaid Cymru Lindsay Whittle drwy ddweud ei fod yn ymwybodol o'r "adolygiad cywilyddus" gan AC'au yng Nghasnewydd ac Abertawe a gofynnodd beth oedd y llywodraeth yn ei wneud i helpu'r "dosbarth gwleidyddol" fel na bod AC'au yn creu casineb ynghylch y "dosbarth bregus" yma.

Ateb y gweinidog oedd bod gan bob AC ei rôl ei hun ac y byddai pob un yn elwa o siarad â'r grŵp yma.

Yn ogystal, cwestiynwyd y gweinidog ar Gymunedau yn Gyntaf, raglen flaenllaw Dechrau'n Deg a'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio banciau bwyd.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.