Datganiad addysg a sgiliau

Cymorth

Mae Leighton Andrews, y gweinidog addysg, wedi croesawu adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd ar 18 Mehefin 2013, a allai arwain at newidiadau sylweddol yn y ffordd y caiff gwasanaethau addysg eu darparu yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi argymhellion Robert Hill o'i adolygiad a oedd yn edrych ar strwythur gwasanaethau addysg yng Nghymru yn y dyfodol.

Cyflwynodd adroddiad Robert Hill 85 opsiwn i'w hystyried, gan gynnwys argymell mai 14 o awdurdodau addysg ddylai fod yng Nghymru. Mae 'na 22 ohonyn nhw ar hyn o bryd, ond mae bron i'w hanner nhw wedi cael eu gosod dan fesurau arbennig gan arolygwyr Estyn.

Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r adroddiad yn llawn a bydd yn ymgynghori ar yr opsiynau amrywiol am y deuddeg wythnos nesaf.

Dywedodd Mr Andrews: "Dwi wedi ei gwneud yn glir iawn fy mod i am godi safonau a lefel perfformiad ym mhob rhan o'r byd addysg.

"Os ydyn ni i gyflawni'r hyn rydyn ni'n gwybod y mae angen ei wneud i wella ein gwasanaethau addysg, mae'n rhaid inni nid yn unig ganolbwyntio ar ddeilliannau dysgwyr, mae'n rhaid inni hefyd sicrhau cydlyniant rhwng ein sefydliadau a rhagoriaeth y sefydliadau hynny.

"Mae'n bwysig nawr bod pawb yn cymryd rhan lawn yn ein hymgynghoriad er mwyn ein helpu ni i wneud y gwelliannau angenrheidiol er mwyn cymryd y cam o fod yn system addysg dda i fod yn un wych."

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.