Cwestiynau i'r prif weinidog

Cymorth

Cyhuddodd Carwyn Jones arweinydd Plaid Cymru o wneud datganiadau "camarweiniol, anwir ac anghywir" yn ystod dadl ffyrnig ar lawr y senedd ar 4 Mehefin 2013.

Gwadodd Leanne Wood y cyhuddiad, gan ddweud: "Dydw i ddim wedi camarwain y cynulliad."

Ymosododd arweinwyr y tair gwrthblaid ar record Carwyn Jones mewn cysylltiad â'r gwasanaeth iechyd yn ystod y sesiwn o holi'r prif weinidog.

Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol aeth gyntaf gan ymosod ar y llywodraeth am fethu targedau ambiwlans, canser a gofal brys.

"Pryd wnaiff eich llywodraeth ddarparu'r gwasanaeth iechyd mae pobl Cymru yn ei haeddu?" gofynnodd Ms Williams.

Dywedodd Mr Jones fod pobl Cymru'n hapus gyda'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan gyfeirio at ganlyniadau arolwg cenedlaethol diweddar er mwyn cefnogi ei honiad.

Ond mynnodd Ms Williams bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn syrthio ar ei hôl hi o gymharu â'r un gwasanaeth yn Lloegr.

Dywedodd Ms Williams: "Mae'r nifer sy'n aros mwy na phedair awr yma yn ddwbl y ffigwr ar gyfer Lloegr. Mae chwech y cant yn aros mwy nag wyth awr. Yn Lloegr mae eich cydweithwyr Llafur wedi cyhuddo'r llywodraeth o fod yn hunanfodlon. Onid yw'n wir yng Nghymru bod gennym ddwbl yr argyfwng, dwbl y traha a dwbl yr hunanfodlonrwydd?"

Dywedodd Mr Jones bod amseroedd aros canser ac ambiwlans wedi gwella yng Nghymru ers mis Mawrth.

Yn parhau ar thema'r gwasanaeth iechyd, dywedodd Leanne Wood mai llywodraeth Cymru sy'n berchen ar wasanaeth iechyd y wlad, a gofynnodd i'r prif weinidog roi'r gorau i gynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau yng nghymoedd y de.

"Gallech chi roi terfyn ar hyn nawr pe bai chi'n dewis gwneud hynny," meddai.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Does dim cynlluniau i gau'r uned gofal brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg."

Cyhuddodd Ms Wood o "gamarwain" y cynulliad drwy wneud yr awgrym hwnnw.

"Dydw i ddim wedi camarwain y cynulliad. Bydd gwasanaethau yn cau yn y tymor hir o ganlyniad i'r cynigion hyn," meddai Ms Wood.

Ond mynnodd Carwyn Jones ei bod hi'n bod yn gamarweiniol.

Dywedodd: "Mae hi wedi dweud rhywbeth camarweiniol, anwir ac yn anghywir. Dywedodd y byddai gwasanaethau gofal brys yn cau ac mae hynny'n anghywir. Fe wnaeth hi wedyn gymhwyso hynny drwy ddweud 'yn y tymor hir' ac oni bai bod ganddi belen grisial... dyw hi ddim mewn sefyllfa i ddweud sut y bydd gwasanaethau yn cael eu datblygu yn y tymor hir. "

Honnodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar bod AS ac AC Rhondda Chris Bryant a Leighton Andrews - sydd hefyd yn aelod o gabinet llywodraeth Cymru - hefyd wedi dweud y byddai gwasanaethau brys yn mynd.

Honnodd Mr Millar bod Mr Andrews wedi dweud bod "gwasanaethau yn diflannu" mewn datganiad i'r wasg.

"Ydych chi'n condemnio'r ffaith eu bod nhw yn codi bwganod, yn yr un modd?" gofynnodd Mr Millar.

Mewn ymateb, dywedodd Mr Jones: "Yr hyn sy'n cael ei awgrymu gan y blaid gyferbyn [Plaid Cymru] yw y bydd yr adran gofal brys yn cau; dyw hynny erioed wedi cael ei awgrymu gan aelodau Llafur yn y siambr hon."

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.