Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Cymorth

Nid oes "unrhyw beth tebyg" i'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi unman arall yn y Deyrnas Unedig oedd y neges gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn y pwyllgor ar 23 Mai 2013.

Dywedodd Huw Lewis y dylen ni yng Nghymru fod yn falch iawn o'r gwaith sydd wedi ei wneud ar y cynllun gweithredu a bod gan Gymru ymrwymiad penodol ar broblemau tlodi.

Holodd Ken Skates AC Llafur beth oedd yr her a faint o gyfathrebu oedd yn digwydd gyda Llywodraeth y DU.

Atebodd y gweinidog bod tlodi yn her fawr yng Nghymru. Mae targedau wedi eu gosod i ddiddymu tlodi plant erbyn 2020.

Nododd y cadeirydd Christine Chapman fod cynnydd mewn tlodi ymysg y rhai gydag iselder ac iechyd gwael.

Cadarnhaodd Mr Lewis ei fod wedi bod yn gweithio yn agos gyda'r gweinidog iechyd a bod iechyd yn flaenoriaeth.

Yn dilyn yr ymosodiad terfysgol yn Woolwich, cododd Lindsay Whittle AC Plaid Cymru bryderon am leiafrifoedd ethnig yng Nghymru.

Pwysleisiodd y gweinidog fod terfysgwyr yn chwilio am adwaith ac ymateb a'u bod am ysgwyd cymunedau. Dywedodd na ddylem fod yn hunanfodlon yng Nghymru "nid yw Woolwich mor bell â hynny, does gennym ni ddim imiwnedd".

Yn ogystal â hyn, fe wnaeth Mr Lewis longyfarch a thalu teyrnged i Julie Morgan AC Llafur am ei gwaith ar y Prosiect Sipsiwn a Theithwyr.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.