Adroddiad ar fuddsoddi i arbed

Cymorth

Mae'r pwyllgor cyllid o'r farn bod y cynllun buddsoddi i arbed, ar y cyfan, yn gynllun gwych sy'n gwella gwasanaethau i'r cyhoedd ac sy'n cynhyrchu arbedion gwirioneddol i bwrs y wlad, meddai Jocelyn Davies, cadeirydd y pwyllgor ar 22 Mai 2013.

Ni fyddai aelodau'r pwyllgor am glywed, meddai, bod cynlluniau a fyddai'n arbed arian yn cael eu dal yn ôl oherwydd diffyg buddsoddiad ysgogi drwy'r cynllun buddsoddi i arbed.

Mae'r aelodau yn argymell bod y gweinidog yn parhau i fonitro'r galw am y cynllun.

Galwodd hefyd ar lywodraeth Cymru i wneud mwy o ymdrech i annog sefydliadau addysg a sectorau eraill, sydd y tu allan i'r sectorau llywodraeth leol/GIG craidd, i ddefnyddio'r gronfa.

Dywedodd y gweinidog cyllid Jane Hutt eu bod yn derbyn yr argymhellion, o leiaf mewn egwyddor.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.