Dadl ar Araith y Frenhines

Cymorth

Blaenoriaeth llywodraeth y Deyrnas Unedig yw adfer yr economi, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones wrth iddo annerch y cynulliad mewn dadl ar Araith y Frenhines ar 22 Mai 2013.

"Rydw i'n credu'n gryf yn undeb y Deyrnas Unedig ac mae'r rhaglen hon yn dangos yn glir y manteision i Gymru o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig," meddai.

"Ers i fi ddod i'r swydd, rydw i wedi dweud mai adfer economi Cymru yw fy mhrif flaenoriaeth.

"Mae ein rhaglen ddeddfwriaethol yn parhau a'n ffocws ni ar gryfhau'r economi fel bod y DU yn gallu cystadlu a llwyddo yn y ras ryngwladol."

Ond awgrymodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ac arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood nad oedd hi'n addas i'r ysgrifennydd gwladol ddod i annerch yr aelodau'n flynyddol.

Mae'r ddadl, sydd fel arfer yn dilyn Araith y Frenhines, yn ofynnol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Does dim dadl gyfystyr yn Senedd yr Alban.

Dywedodd Mr Jone yn hwyrach y byddai llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymateb i argymhellion Comisiwn Silk ar bwerau trethi i lywodraeth Cymru "yn y dyfodol agos".

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.