Cwestiynau llywodraeth leol

Cymorth

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths nad oedd hi'n "addas" iddi ymyrryd ynghylch sut y mae awdurdodau lleol yn gosod cyflogau ar gyfer prif weithredwyr wrth ateb cwestiynau aelodau ar 22ain o Fai 2013.

Galwodd nifer o ACau i'r gweinidog ymyrryd yn y modd y mae prif weithredwyr yn cael eu talu.

Gofynnodd AC Llafur Mike Hedges i Ms Griffiths ysgrifennu at gwmnïau I gael esboniad pam fod prif weithredwyr yn derbyn cyflogau mor uchel.

Ategwyd y pwynt hwn gan yr AC Ceidwadol Janet Finch Saunders wrth gyfeirio at erthygl bapur newydd lle dywedwyd bod dros 56 o uwch swyddogion yn ennill dros £100,000.

Gofynnodd Ms Saunders beth oedd y gweinidog yn ei wneud i wella tryloywder cyflogau uwch swyddogion.

Atebodd y gweinidog drwy ddweud y byddai hi'n hoffi i'r wybodaeth hon fod ar gael i'r cyhoedd ond nad oedd hi'n addas iddi ymyrryd.

Dywedodd yr AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomos y dylai fod lle yn y mesur i'r bwrdd talidau annibynnol i benderfynu ar gyflogau prif weithredwyr.

Roedd yn cymell iddi wneud rhywbeth ar y mater os oedd hi wir eisiau tryloywder.

Dywedodd y gweinidog nad oedd angen cynnwys y bwrdd yn y mesur ac mae swydd pob awdurdod lleol yw penderfynu ar raddau cyflogau ac nad ei lle hi oedd ymyrryd.

Cwestiynodd AC Plaid Cymru Lindsay Whittle pam fod prif weithredwyr yn derbyn codiadau cyflog pan fod cyflogau gweithwyr eraill wedi eu rhewi.

Roedd yn pwyso ar Ms Griffiths, er lles llywodraeth leol, i "weithredu nawr".

Yn ogystal, cafodd y gweinidog ei chwestiynu ynghylch sicrhau nawdd hir dymor ar gyfer sefydliadau gwirfoddol sy'n helpu menywod sydd wedi ei heffeithio gan drais rhywiol a thrais yn y cartref.

Mae Ms Griffiths yn gweithio'n agos gyda'r gweinidog addysg i helpu ysgolion ar sut i addysgu bechgyn ifanc a dynion am barch a pherthynas iachus.

Watch this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.