Datganiad ar Ynni Cymru

Cymorth

Mae rhaglenni cyllid Ewropeaidd 2014-2020 yn cynnig cyfle i lywodraeth Cymru i gynyddu ymhellach gynlluniau cynhyrchu ynni ar raddfa fach ac effeithlonrwydd ynni yn ôl y prif weinidog ac maent ar hyn o bryd yn ystyried sut y gellir cyflawni hyn orau.

Dywedodd Carwyn Jones ar 14 Mai 2013 fod arweinyddiaeth gref a chydweithio â chymunedau a busnesau wedi bod yn allweddol i'w hymagwedd o ran cyflawni'r trawsnewid i economi carbon isel.

Cyfeiriodd at y gwaith gyda'r diwydiant gwynt ar y tir sydd wedi arwain at gytundeb i greu cofrestr budd economaidd a chymunedol, a fydd yn dangos sut mae'r diwydiant yn cyflawni ar gyfer busnesau a chymunedau Cymru.

Gofynnodd aelod Maldwyn Russell George a oedd buddsoddiad credadwy i gefnogi'r newid i economi carbon isel.

Soniodd y Ceidwadwr hefyd am y teimlad o ddiffyg ymddiriedaeth yn y canolbarth ymysg gwrthwynebwyr tyrbinau gwynt pan mae sôn am fanteision cymunedol.

Galwodd hefyd ar gyfer ehangu Arbed, y rhaglen buddsoddi strategol mewn perfformiad ynni.

Galwodd Alun Ffred Jones o Blaid Cymru am ddatganoli pwerau ar gyfer creu ynni, ac i nodyn cynllunio Tan 8 gael ei diwygio fel bod budd y gymuned yn un o amodau caniatâd cynllunio.

Gofynnodd y Democrat Rhyddfrydol William Powell i'r prif weinidog wneud y mwyaf o'i aelodaeth o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig er mwyn cydweithio â Gweriniaeth Iwerddon.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.