Pwyllgor Deisebau

Cymorth

Deisebau ar ad-drefnu iechyd yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda oedd rhai o nifer ystyriodd y Pwyllgor Deisebau ar 14 Mai 2013.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor William Powell bod cysondeb yn bwysig wrth ddelio ag Ysbyty Tywysog Philip, uned mân anafiadau ysbyty Dinbych y Pysgod, a'r pryderon gan drigolion Sir Benfro.

Dywedodd aelod Llafur y Canolbarth a Gorllewin Cymru, Joyce Watson, bod y sefyllfa yn "gythryblus" ac yn achosi "straen ar gyfer defnyddwyr y gwasanaethau a'r rhai sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth iechyd".

Cytunodd y pwyllgor i gadw mewn cysylltiad â'r gweinidog iechyd Mark Drakeford.

Hefyd, ystyriwyd deiseb a oedd yn galw am bolisi Plain English/Cymraeg Clir i'r holl gyfathrebu gan y Cynulliad a'r llywodraeth.

Dywedodd William Powell ei fod yn bwysig bod yr holl gyfathrebu yn glir ac yn ddealladwy.

Dywedodd Elin Jones o Blaid Cymru fod y ddeiseb hefyd yn cynnwys y defnydd o jargon gan aelodau yn y siambr.

Cytunodd y pwyllgor i ysgrifennu at ysgrifennydd parhaol y llywodraeth a chlerc y cynulliad.

Ymhlith deisebau eraill a ystyriwyd oedd cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o faes awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru, pryderon diogelwch ar ffordd yr A48 yng Nghas-gwent, ac ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy'n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru.

Watch this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.