Dadl fer: Rôl y cyfryngau

Cymorth

Arweiniodd yr aelod Llafur Ken Skates ddadl fer ar newid rôl y cyfryngau lleol a rhanbarthol yng Nghymru ar 23 Ebrill 2013.

Siaradodd am ei syniadau ar sut y gellir cefnogi newyddiaduraeth yng Nghymru a phwysleisiodd pa mor bwysig yw'r wasg brintiedig er mwyn "cadw democratiaeth ar flaenau ei fysedd".

Un o'i syniadau oedd creu cronfa er mwyn ceisio sicrhau bod arian hysbysebu yn cael ei wario lle bod angen o fewn y wasg Gymreig.

"Mae gennym ni'r gallu ac rydym angen datblygu model gall eraill ei gopïo."

Diolchodd y Gweinidog Diwylliant John Griffiths i Mr Skates am ddod a'r ddadl gerbron, a chytunodd bod angen gwneud mwy i roi help llaw i'r cyfryngau yng Nghymru.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.