Dadl ar ofal tymor hir

Cymorth

Cytunodd aelodau o bob plaid ar yr angen am gonsensws traws bleidiol ar sut i dalu am ofal tymor hir yn ystod dadl y Democratiaid Rhyddfrydol ar 17 Ebrill 2013.

Wrth agor y ddadl, dywedodd arweinydd y blaid, Kirsty Williams bod trafod "sut i dalu am ofal wedi ei osgoi ers yn rhy hir".

Croesawodd gynlluniau llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiwygio'r drefn.

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Dilnot ar gost gofal, maen nhw'n bwriadu cyflwyno cap ar gostau gofal ar £75,00 yn 2016, sydd wedi'r etholiad cyffredinol nesaf.

Bydd angen rhywfaint o ofal a chymorth ar dros wyth o bob deg o bobl 65 oed neu hŷn yn ddiweddarach yn eu bywydau a'r gred yw y bydd nifer y bobl yng Nghymru sy'n 65 oed a hŷn wedi dyblu erbyn 2035.

Yr amcangyfrif yw bod dros 17,000 o bobl â dementia yng Nghymru ar hyn o bryd ac y bydd y nifer yn cynyddu 31% dros yr 20 mlynedd nesaf.

Croesawodd Ms Williams bolisi'r llywodraeth o roi cap ar gost gofal yn y cartref ar £50 yr wythnos ond galwodd am ehangu'r cap i fathau eraill o ofal.

Wrth ymateb i'r ddadl, dywedodd i Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol Gwenda Thomas na fyddai hi'n cael ei "gwthio" i wneud penderfyniadau polisi dim ond er mwyn cael mantais wleidyddol yn y tymor byr.

Mynnodd ei bod yn ymfalchïo ym mholisi'r llywodraeth ar gapio gofal yn y cartref ond ei bod am ddod o hyd i "ddatrysiad parhaol cynaliadwy" ar gyfer gofal tymor hir.

Chafodd y cynnig ddim ei gymeradwyo.

Watch this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.