Ymddiheuriad: Bethan Jenkins

Cymorth

Roedd Bethan Jenkins yn ei dagrau ar 19 Mawrth 2013 wrth ymddiheuro i'r cynulliad am yfed a gyrru.

Cafodd ei beirniadu gan y Democrat Rhyddfrydol Peter Black am beidio â bod yn bresennol i ddadl y pwyllgor safonau ar ei hymddygiad ar 13 Mawrth 2013.

Fis Hydref, cafodd yr aelod 31 mlwydd oed ei stopio gan yr heddlu ac roedd yr alcohol yn ei gwaed fwy na dwywaith y lefel gyfreithiol.

Dywedodd Mr Black bod absenoldeb Ms Jenkins yn "amharchus".

Mae Ms Jenkins wedi ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis.

Cymeradwyodd y cynulliad argymhelliad y Pwyllgor Safonau i geryddu Ms Jenkins am ddwyn anfri ar y sefydliad.

Wnaeth Ms Jenkins ddim apelio'r penderfyniad, ond doedd hi ddim yn y ddadl, am ei bod wedi teithio i Lundain i brotest gyda chyn weithwyr ffatri Visteon sy'n dweud eu bod wedi colli eu pensiynau.

Dywedodd: "Roeddwn yn sylweddoli y byddwn yn cael fy meirniadu am fynd i Lundain ond roeddwn yn barod i wynebu hynny i gefnogi pensiynwyr Visteon.

"Rydw i wedi bod yn cefnogi'r pensiynwyr yn eu hymgyrch ers pedair blynedd bellach.

"Fe hoffwn i osod ar gofnod y cynulliad fy ymddiheuriadau i ategu'r ymddiheuriadau yr ydw i eisoes wedi eu rhoi i'r cyhoedd ac i'r cynulliad trwy fy natganiadau i'r Pwyllgor Safonau."

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.