Dadl ar y cynghorau iechyd cymuned

Cymorth

Pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yr angen am "gynghorau iechyd cymuned (CIC) effeithiol" er mwyn "sicrhau bod gennym ni'r math o wasanaeth iechyd yr ydym ni ei eisiau".

Roedd y gweinidog, a benodwyd yn ddiweddar yn dilyn ad-drefniant o'r cabinet, yn siarad yn ystod dadl ar gryfhau rôl cynghorau cymuned.

Dywedodd Mr Drakeford, oedd yn gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn ei ddyrchafiad, ei fod wedi ymrwymo i sicrhau bod y cynghorau iechyd "yn gwasanaethu pobl Cymru i'w llawn allu".

Mae'r cynghorau yn gweithredu fel corff sy'n gwarchod buddiannau cleifion, ac mae rhan o'u gwaith yn cynnwys cyfeirio newidiadau arfaethedig i'r gwasanaethau iechyd i'r llywodraeth os ydyn nhw'n credu y byddai'r newidiadau yn debygol o beryglu diogelwch cleifion.

Fe ddechreuodd llawer o'r aelodau eu cyfraniadau drwy groesawu'r gweinidog iechyd newydd i'w swydd, ac fe ddisgrifiodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar y penodiad fel un "i'w groesawu".

"Mae'n bwysig cael llais cryf i'r cynghorau cymuned ond rwy'n pryderu ychydig eu bod wedi colli eu llais yn ystod y broses ad-drefnu," meddai Mr Millar.

Roedd yn cyfeirio at y ffaith bod y gweinidog iechyd blaenorol, Lesley Griffiths, wedi ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymunedol Hywel Dda i ddweud wrthyn nhw i siarad eto gyda'r bwrdd iechyd lleol.

Roedd hyn yn dilyn penderfyniad y cyngor i gyfeirio rhai elfennau o gynlluniau'r bwrdd iechyd at y gweinidog.

Siaradodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams ac aelod Plaid Cymru Llŷr Huws Gruffydd hefyd yn ystod y ddadl.

Dywedodd y ddau eu bod am i'r cynghorau iechyd gael eu cryfhau.

Galwodd Mr Gruffydd ar y llywodraeth i sicrhau bod y cynghorau yn "parhau i fod yn annibynnol".

Cafodd y mesur wedi ei ddiwygio ei gymeradwyo.

Watch this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.