Cwestiynau i'r prif weinidog

Cymorth

Cadarnhaodd y prif weinidog ar 19 Mawrth 2013 mai ef fydd yn dal i wneud y penderfyniad a ddylai rhannau o gynlluniau ad-drefnu iechyd gogledd Cymru gael eu hystyried gan y llywodraeth.

Mae Carwyn Jones yn disgwyl gwneud y penderfyniad "o fewn wythnos".

Roedd Mr Jones eisoes wedi dweud mai ef fyddai'n gwneud y penderfyniad gan fod y gweinidog iechyd ar y pryd, Lesley Griffiths, yn cynrychioli etholaeth Wrecsam, fyddai'n cael ei effeithio gan y penderfyniad.

Er bod gweinidog iechyd newydd bellach wrth y llyw, AC Gorllewin Caerdydd Mark Drakeford, y prif weinidog fydd yn gwneud y penderfyniad o hyd.

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei gynlluniau adrefnu fis Ionawr 2013, oedd yn cynnwys penderfyniad dadleuol i symud gofal dwys i fabanod newydd anedig i ysbyty yng ngogledd orllewin Lloegr.

Er y gallai'r cyngor iechyd cymuned drosglwyddo'r penderfyniad i ddwylo'r llywodraeth, wnaethon nhw ddim.

Croesawodd y Ceidwadwr Darren Millar gyhoeddiad y prif weinidog y byddai'n edrych ar y sefyllfa beth bynnag.

Ymatebodd Mr Jones hefyd i gwestiynau yn ymwneud â'r iaith Gymraeg, undebau credyd a phrisiau alcohol, ymysg eraill.

Holodd arweinwyr y gwrthbleidiau Mr Jones ynglŷn ag adrefnu iechyd, datganoli heddlua a diweithdra.

Mae'r fideo yn anghyflawn oherwydd nam technegol.

Watch this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.