Dadl ar adroddiad blynyddol Estyn

Cymorth

Gwrthododd y gweinidog addysg honiadau'r Ceidwadwyr ar 19 Mawrth 2013 nad yw adroddiad Estyn yn annibynnol.

Roedd Leighton Andrews yn arwain dadl ar adroddiad blynyddol Estyn.

Mae'r adroddiad yn cynnwys manylion arolygiadau 2011-2012 yn ogystal â data ar berfformiad cenedlaethol disgyblion, athrawon ac ysgolion.

Mae'r adroddiad yn nodi pryderon Estyn nad oes digon yn cael ei wneud i sicrhau bod y disgyblion disgleiriaf yn cyrraedd eu potensial.

O gymharu â'r llynedd, mae llai o ysgolion wedi derbyn graddau "da" neu "wych".

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod lefel sgiliau darllen, ysgrifennu a rhifedd yng Nghymru yn rhy isel, a bod angen i arweinwyr ysgolion wella perfformiad athrawon.

Awgrymodd Suzy Davies o'r Ceidwadwyr bod swyddogion y llywodraeth wedi dylanwadu ar adroddiad Estyn, iddo gael ei "newid o ganlyniad i sylwadau'r llywodraeth".

Gwrthododd Mr Andrews yr honiad yn llwyr.

"Wrth gwrs bod swyddogion yn cynnig sylwadau ar sail ffeithiol," meddai.

Mynnodd bod y prif arolygydd, Ann Keane yn gwbl annibynnol.

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas nad oedd ei blaid o'r farn bod y llywodraeth yn "hollol anghywir" o ran polisi addysg, ond eu bod am weld "canlyniadau ynghynt" i sicrhau bod y llywodraeth yn cyrraedd ei tharged o fod yn 20 gwlad uchaf profion PISA erbyn 2015.

Mae'r profion o fyfyrwyr 15 mlwydd oed yn dangos bod Cymru ar ei hôl hi ers profion 2006.

Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts bod dim newydd yng nghanfyddiadau'r adroddiad a bod canlyniadau ar hyn o bryd yn "rhwystredig o anfoddhaol".

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo.

Watch this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.