Cwestiynau llywodraeth leol

Cymorth

Mae'r gweinidog llywodraeth leol yn pryderu "nad oes llawer o wahaniaeth" rhwng pobl sy'n benthyg arian yn gyfreithlon a'r rhai sy'n gwneud hynny'n anghyfreithlon.

Ond mae Carl Sargeant yn mynnu bod rhaglen Cymunedau'n Gyntaf yn cynnig cymorth i bobl ddeall yn well sut i reoli eu harian.

Roedd y gweinidog yn ymateb i gwestiynau gan aelodau ar 6 Mawrth 2013.

Holodd Simon Thomas o Blaid Cymru sut y gallai clystyrau Cymunedau'n Gyntaf gynnig cymorth i'r tlawd gyda'i dyledion.

"Gall Cymunedau'n Gyntaf gynorthwyo o ran cynhwysiant ariannol ac undebau credyd, ac hefyd wrth rannu ymarfer da o ran sut i gynilo a rheoli arian," meddai'r gweinidog.

Gofynnodd Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol pam nad oedd "pocedi" tlawd mewn ardaloedd gwledig yn rhan o'r clystyrau.

Dywedodd Mr Sargeant bod y clystyrau wedi eu llunio i adlewyrchu anghenion ardaloedd tlotaf Cymru.

Bu'n ymateb hefyd i gwestiynau ynglŷn â threth y cyngor, trafnidiaeth ac adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gyngor Caerffili.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.