Cwestiynau i'r gweinidog addysg

Cymorth

Mae bandio yma i aros, yn ôl y Gweinidog Addysg Leighton Andrews.

Roedd yn ymateb i gwestiwn gan Llŷr Huws Gruffydd yn ystod cwestiynau i'r gweinidog addysg ar 6 Mawrth.

Roedd Mr Gruffydd am wybod a fyddai Mr Andrews yn ailystyried statws y system fandio pe bai hi'n dod i'r amlwg bod y system fandio yn cael effaith niweidiol ar nifer disgyblion ysgolion y bandiau isel.

"Roedd bandio yn ymrwymiad maniffesto; mae bandio yn gweithio; mae bandio yn gwella safonau; mae bandio yma i aros," oedd ateb pendant Mr Andrews.

Holodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood a oedd Mr Andrews yn credu bod y ffaith i Ysgol Uwchradd Llanrhymni "neidio dros ugain lle yn y tabl bandio diweddaraf" er ei bod ar fin cau yn dangos bod y system fandio wedi ei "thanseilio".

Atebodd Mr Andrews nad oedd Ms Wood "yn deall y system fandio" a bod y "mwyafrif o ysgolion wedi aros yn yr un band neu wedi codi neu syrthio un lle."

"Hoffwn glywed rhywbeth gan Blaid Cymru sy'n dangos fod ganddyn nhw ddiddordeb mewn addysg," ychwanegodd Mr Andrews.

Gofynnodd Nick Ramsay, oedd yn dirprwyo fel llefarydd addysg y Ceidwadwyr, a allai Mr Andrews "gynnig sicrwydd na wnaethoch chi ostwng ffiniau graddau er mwyn ceisio cau'r bwlch cyrhaeddiad?" gan y bydd ffiniau graddau TGAU Cymreig yn cael eu gosod yng Nghymru yn y dyfodol.

Fe roddodd Mr Andrews y sicrwydd hynny, gan ychwanegu ei fod yn "annog aelodau i beidio â dibrisio cymwysterau Cymreig."

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.