Dadl ar safonau iaith

Cymorth

Mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi amddiffyn rôl ac annibyniaeth comisiynydd y Gymraeg, yn dilyn ei benderfyniad i wrthod ei safonau iaith drafft fis Chwefror 2013.

Esboniodd ei benderfyniad yn ystod dadl yn siambr ar 5 Mawrth 2013.

Dywedodd bod ganddo nifer o bryderon am safonau'r comisiynydd.

Dywedodd bod ystyr rhai yn aneglur, yn mynd tu hwnt i gwmpas y mesur, ac â'r potensial i gamarwain y cyhoedd.

Pwysleisiodd mai nid ar chwarae bach y gwnaeth y penderfyniad.

"Nid yw fy mhenderfyniad yn tanseilio rôl y Comisiynydd," meddai.

"Yn wir mae'n cadarnhau annibyniaeth y comisiynydd o'r llywodraeth.

"Mae hi'n parhau yn bencampwraig dros yr iaith, yn annibynnol o'r llywodraeth, yn enwedig yn nhermau ei rôl rheoleiddio."

Dywedodd hefyd y byddai'n cyhoeddi amserlen ar gyfer y safonau iaith newydd, gyda'r nod o gael y rhai cyntaf yn eu lle erbyn diwedd 2014.

Yn ôl rhai aelodau o Blaid Cymru, mae angen adfer rhywfaint o enw da.

Dywedodd Simon Thomas ei bod yn amlwg bod cyfathrebu rhwng y llywodraeth a swyddfa'r comisiynydd wedi bod yn "wael" ac yn "wan" ac nad oedd hi'n "ddigon clir pwy oedd yn gwneud beth".

"Rwy'n derbyn bod y comisiynydd yn annibynnol a does dim rhaid i'r comisiynydd wrando ar y llywodraeth.

"Ond mae hefyd yn wir i ddweud os oes rhywun yn dweud wrthych chi mwy nag unwaith mai fel hyn y byddan nhw yn dymuno gweld rhywbeth yn cael ei wneud er mwyn hwyluso'r broses ddeddfwriaeth sy'n dilyn, byddai'n ddoeth i dalu sylw i hynny."

Cwestiynodd y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol pam fod y broses o gyflwyno safonau yn cymeryd cymaint o amser.

Holodd Suzy Davies o'r Ceidwadwyr pa waith paratoi mae'r gweinidog a'i adran wedi ei wneud ers pasio'r mesur iaith yn 2011.

Pwysleisiodd y gweinidog wrth orffen ei fod yn disgwyl i'w swyddogion a swyddogion y Comisiynydd gydweithio yn y dyfodol.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.