Cwestiynau i'r prif weinidog

Cymorth

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones mai fe fyddai'n penderfynu a fydd y llywodraeth yn ystyried rhai newidiadau arfaethedig i wasanaethau iechyd gogledd Cymru.

Roedd yn siarad yn ystod cwestiynau'r prif weinidog ar 5 Mawrth 2013.

Dywedodd Mr Jones bod cynghorau iechyd cymuned wedi cyfeirio rhai o'r newidiadau arfaethedig i'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths yn barod, ac y byddai hi nawr yn penderfynu ar y camau nesaf.

Ond, datgelodd y prif weinidog mai ef yn bersonol fyddai'n penderfynu a fyddai rhai o'r newidiadau arfaethedig eraill yn cael eu galw i mewn.

"Mae gan weinidogion yr hawl i alw'r cynlluniau i mewn beth bynnag, ac mae hynny'n rhywbeth wrth gwrs sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd," meddai Mr Jones.

"I fod yn gwbl glir: fe fydda i yn cymryd y penderfyniad yna achos mae'r gweinidog yn rhywun sydd â etholaeth tu fewn i ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr."

Yn gynharach, tynnodd arweinydd Plaid Cymru sylw at beth oedd hi'n ei ddisgrifio fel tensiwn o fewn Llafur yng Nghymru, gan gyfeirio at sylwadau ysgrifennydd gwladol yr wrthblaid dros Gymru, Owen Smith.

Dywedodd Leanne Wood wrth Carwyn Jones ei fod wedi "addo sefyll i fyny dros Gymru a darparu tarian yn erbyn y toriadau'r Ceidwadwyr.

"Mae aelodau seneddol Llafur yn credu eich bod wedi methu â darparu'r darian honno."

Atebodd Mr Jones bod ei lywodraeth yn dibynnu ar lywodraeth y Deyrnas Unedig i "wneud eu rhan" a'u bod nhw "yn amlwg ddim yn gwneud hynny".

Fe gododd aelod o feinciau cefn Llafur Mark Drakeford bwynt o drefn ar ddiwedd y sesiwn, gan honni bod Ms Wood wedi camddyfynnu Owen Smith.

Mynnodd arweinydd Plaid Cymru bod y dyfyniad iddi ddefnyddio yn gywir, a'i fod wedi ei gyhoeddi mewn papur newydd Cymreig.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.