Pwyllgor Menter a Busnes
Rhaid gwneud yn siŵr bod "gwerth go iawn" i gymwysterau yn ôl y Dirprwy Weinidog Sgiliau Jeff Cuthbert ar 28 Chwefror 2013.
Dywedodd wrth y Pwyllgor Menter a Busnes, sy'n cynnal ymchwiliad i'r adolygiad cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru, bod rhaid i'r cymwysterau wneud mwy na bod yn gyfleus i'r canolfannau sy'n cynnig y cyrsiau.
"Rhaid gwneud yn siŵr bod cefnogaeth iddyn nhw," meddai.
"Pan ddechreuodd yr adolygiad cymwysterau roedd 10,500 o gymwysterau allai ddenu arian.
Mae'r nifer bellach wedi ei gwtogi o 3,000.
"Nid pob cymhwyster oedd yn berthnasol nac yn angenrheidiol."
Roedd cadeirydd yr adolygiad, Huw Evans hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor gyda phennaeth yr is-adran gymwysterau Kate Crabtree a Kim Ebrahim, pennaeth cangen rheoleiddio a sicrhau ansawdd cymwysterau galwedigaethol y llywodraeth.
Dywedodd bod prinder pobl i hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg a bod angen gweithredu i newid hynny.
Eglurodd bod nifer o bobl gymwys i hyfforddi yn rhugl yn y Gymraeg ond heb yr hyder i ddysgu trwy gyfrwng yr iaith.
Galwodd am "flaenoriaethu hyfforddi tiwtoriaid i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg."
Y Pwyllgor Menter a Busnes |
|
|---|---|
~RS~q~RS~~RS~z~RS~19~RS~)