Dadl y Ceidwadwyr ar ambiwlansys

Cymorth

Roedd pryder trawsbleidiol ynglŷn ag amseroedd aros yn ystod dadl y Ceidwadwyr ar amseroedd ymateb ambiwlansys ar 27 Chwefror 2013.

Daeth y ddadl yn dilyn cyhoeddi ffigyrau aros am ambiwlans ar gyfer mis Ionawr 2013, oedd yn dangos bod yr ymddiriedolaeth ambiwlans wedi methu â chyrraedd ei thargedau i gyrraedd cleifion o fewn wyth munud o gael yr alwad, 65% o'r amser am wyth mis yn olynol.

Yn ôl y Ceidwadwyr, mae 11 o orsafoedd ambiwlans wedi cau yng Nghymru ers 2008/09.

Dywedodd llefarydd y blaid ar iechyd Darren Millar eu bod yn pryderu am yr effaith mae hyn yn ei gael ar gleifion.

Dywedodd aelod Ceredigion Plaid Cymru bod nifer o gleifion yn aros llawer yn hwy nag wyth munud i ambiwlans gyrraedd, rhai hyd at awr.

Ategodd Suzy Davies ei sylwadau, gan ddweud ei bod hi'n "arswydus faint sy'n aros mwy nag awr".

Pryder aelod Llafur Torfaen, Lynne Neagle oedd bod y llywodraeth yn aros am wythfed adolygiad i'r gwasanaeth ambiwlans.

Dywedodd y byddai rhaid i'r gweinidog dderbyn bod parafeddygon yn disgwyl yr adroddiad gyda "sinigiaeth".

"Dydyn nhw ddim yn hyderus y bydd y system yn newid er gwell yn fuan."

Wrth ymateb i'r ddadl, cydnabu'r gweinidog nad oedd y sefyllfa'n ddigon da ond mynnodd bod rhaid aros am ymateb yr adolygiad.

"Rydw i wedi bod yn glir iawn, iawn na fydda i'n derbyn perfformiad gwael," meddai.

Chafodd y cynnig ddim ei gymeradwyo.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.