Dadl Plaid Cymru: prinder meddygon

Cymorth

Mynegodd Plaid Cymru bryderon am brinder meddygon ar 27 Chwefror 2013.

Dywedodd llefarydd y blaid ar iechyd, Elin Jones, bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn llwyr yn nwylo llywodraeth Cymru ac felly y gallai'r gweinidog gynllunio'r gweithlu bron yn berffaith at y dyfodol.

Heriodd y gweinidog iechyd, gan ddweud wrthi mai ei bai hi fyddai unrhyw broblemau recriwtio mewn pum i ddeng mlynedd.

Rhaid gwella amodau gwaith meddygon ifanc, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams.

Ategodd sylwadau Ms Jones y byddai gwneud y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n lle arloesol i weithio yn denu pobl i weithio yma.

Dadleuodd hefyd bod meddygon ifanc yn gwneud gwaith tu hwnt i'w hyfforddiant a'u profiad oherwydd diffyg staff mwy profiadol.

Ychwanegodd mai gwaethygu fyddai pethau gyda'r newidiadau arfaethedig i'r gwasanaeth iechyd.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar nad oedd hi'n syndod bod neb yn gwneud ceisiadau am swyddi am fod y newidiadau'n creu ansicrwydd.

Mae'n cymeryd deng mlynedd i unigolyn gymhwyso'n feddyg cyflawn yn ôl y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths ac y byddai newid mawr yng ngofynion y gwasanaeth iechyd yn y cyfnod hwnnw.

Gwadodd honiadau rhai aelodau bod argyfwng recriwtio ond derbyniodd bod anawsterau mewn rhai ardaloedd a rhai arbenigeddau.

Gwrthododd y gweinidog awgrym Plaid Cymru o roi cymhelliad ariannol i ddenu meddygon gan ddadlau y byddai'n effeithio'n wael ar forâl gweithwyr i fod yn derbyn cyflogau gwahanol.

Chafodd y cynnig ddim ei gymeradwyo.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.