Cwestiynau i'r prif weinidog

Cymorth

Roedd ad-drefnu iechyd yn ganolbwynt i sesiwn holi'r prif weinidog ar 26 Chwefror 2013.

Mynegodd y tri arweinydd eu pryderon am newidiadau arfaethedig i'r gwasanaeth iechyd.

Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood am sicrwydd gan Mr Jones y byddai ef a'i weinidog iechyd yn ystyried teimladau lleol wrth ystyried sefyllfa gwasanaethau Hywel Dda, wedi i'r bwrdd gyfeirio'i gynlluniau dadleuol i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru at y llywodraeth.

Dywedodd y prif weinidog y byddai "pob ffactor perthnasol yn cael eu hystyried."

Cyfeiriodd Ms Wood ac arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies y prif weinidog ac wrthwynebiad gweithwyr meddygol i'r newidiadau arfaethedig i wasanaethau yng ngogledd Cymru, yn arbennig gofal i fabanod newydd-anedig.

Holodd Ms Wood a oedd hi'n ddoeth symud y gwasanaethau hynny i ysbyty yn Lloegr, sydd o dan ofal llywodraeth arall.

"Mae hi'n gwneud pwynt dilys," meddai Mr Jones.

"A hwnnw yw a ddylem ni fod yn or-ddibynnol yn y dyfodol ar wasanaeth iechyd Lloegr sydd wedi ei ddinistrio a'i breifateiddio.

"Mae'n bwynt teg ac yn un i'w ystyried yn llawn."

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams bod cwynion i'r ombwdsmon iechyd wedi treblu dros chwe blynedd, a galwodd am gofrestr o gyfradd marwolaethau.

Dywedodd y prif weinidog bod y llywodraeth yn ystyried cofrestr o gymhlethdodau ond y byddai cofrestr o farwolaethau yn fwy o broblem i lawfeddygon nag o gymorth.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.