Y pwyllgor amgylchedd

Cymorth

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth Alun Davies fod ganddo ffydd yn y gadwyn fwyd ar 21 Chwefror 2013.

Roedd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaladwyedd yn ystod sesiwn i graffu ar ei waith.

Gofynnodd William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol a oedd Mr Davies yn bryderus ynglŷn ag adroddiadau bod cig moch wedi ei ddarganfod mewn cynnyrch oedd wedi ei labelu fel cig halal.

Mae hyn yn dilyn y sgandal cig ceffyl, pan ddarganfuwyd cig ceffyl mewn cig wedi ei brosesu oedd wedi ei labelu fel cig eidion.

"Bydd Defra yn arwain y ddadl ar natur cig halal, a beth mae hynny'n ei olygu mewn cysylltiad â chig moch wedi ei gam-labelu," meddai Mr Davies.

"Rydym angen cyflwyno llinellau un rhywogaeth a phrosesu un rhywogaeth i'r gadwyn gig."

Ategodd y dirprwy weinidog hefyd yr hyn a ddywedodd yn gynharach yn yr wythnos, sef bod ganddo ffydd bod y gadwyn fwyd yn "gadarn a diogel".

Trafododd y pwyllgor y cynllun Glastir hefyd; roedd aelodau'n awyddus i glywed pam fod llai o arian wedi ei wario'r flwyddyn hon nac oedd y llywodraeth wedi ei fwriadu.

Dywedodd y dirprwy weinidog bod y nifer sydd wedi cymryd rhan yn Glastir hyd yn hyn yn "siomedig" ond ei fod yn gobeithio y bydd gwariant hirdymor y cynllun yn agos at amcangyfrif y llywodraeth.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.