Dadl ar gyllid strwythurol Ewropeaidd
Galwodd aelodau'r Pwyllgor Cyllid am adolygiad llawn o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn ystod dadl ar ei hadroddiad ar effeithlonrwydd cyllid Ewropeaidd yng Nghymru ar 20 Chwefror 2013.
Mae'r adroddiad yn dweud ei bod hi'n anodd dod o hyd i wybodaeth sy'n dangos pa effaith mae gwariant Ewropeaidd yn ei gael yng Nghymru, er bod systemau dosbarthu yma yn effeithiol ar y cyfan.
Oherwydd hyn mae'r pwyllgor yn galw ar y llywodraeth i amlinellu eu blaenoriaethau ar gyfer y rownd nesaf o wariant yn ogystal â rôl Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn monitro'r gwaith.
Bydd cyllid strwythurol Ewropeaidd wedi cyfrannu dros £1.5 biliwn i economi Cymru rhwng 2007 a 2013, er mwyn ceisio lleddfu tlodi drwy adfywio ardaloedd difreintiedig.
O'r 16 argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor, derbyniwyd 13 naill ai'n llawn neu o leiaf mewn egwyddor.
"Mae'r Pwyllgor yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i adolygu rôl Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru," meddai Jocelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
"Mae cam o'r fath yn bwysig gan fod y rownd cyllid Ewropeaidd ddiweddaraf hon yn dod i ben yn 2013 ac mae trafodaethau ymysg aelod-wladwriaethau ynglŷn â chyllideb yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol newydd ddechrau.
"Mae'n rhaid i Gymru allu dangos sut mae'n defnyddio'r arian yn synhwyrol ac yn effeithiol."
Wrth ymateb i'r ddadl dywedodd y dirprwy weinidog Ewrop ei fod yn siomedig yn yr adroddiad gan fod Cymru'n cael ei hystyried yn Ewrop fel esiampl o arfer da wrth ddefnyddio cyllid o Ewrop.
Dywedodd Alun Davies bod prosiectau'r Undeb Ewropeaidd eisoes wedi helpu 46,400 o bobl i gael gwaith, wedi cefnogi dros 10,000 o fusnesau ac wedi helpu i greu bron i 4,475 o fentrau newydd ac 16,400 o swyddi yn ystod cyfnod economaidd anodd iawn.
"Gall Cymru ymfalchïo yn ei llwyddiannau hyd yma, ac yn enwedig gan fod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ein cydnabod fel rhanbarth ragorol ac arloesol o ran y ffordd y caiff cyllid Ewropeaidd ei ddefnyddio.
"Mae'r cyllid hwn yn sicr yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer twf cynaliadwy a swyddi yn y dyfodol."
Cafodd y cynnig ei gymeradwyo yn ddiwrthwynebiad.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~33~RS~)