Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cymorth

Gallai'r llywodraeth ail ystyried dylanwad teulu wrth roi caniatâd i organau gael eu defnyddio mewn trawsblaniad wedi marwolaeth perthynas yn ôl y gweinidog iechyd.

Roedd Lesley Griffiths yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 20 Chwefror 2013.

Mae'r pwyllgor yn ystyried y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru).

Bwriad y mesur yw newid y drefn o roi organau fel bod pobl yn gorfod nodi eu gwrthwynebiad os nad ydynt yn dymuno i'w horganau gael eu defnyddio wedi iddynt farw.

Yn ôl y drefn bresennol mae pobl yn dewis rhoi eu horganau trwy nodi hynny ar gofrestr.

Cafodd y gweinidog ei holi am rôl teuluoedd a ffrindiau wrth wneud y penderfyniad o gymeryd organau ar gyfer eu trawsblannu.

Mae'r llywodraeth yn cynnig creu rhestr o aelodau teulu a ffrindiau fyddai â'r hawl i fod yn rhan o'r penderfyniad a ddylai'r organau gael eu defnyddio, ond fyddai neb a mwy o rym nag unrhyw un arall dros y penderfyniad.

Mae'r drefn bresennol yn rhoi mwy o rym i berthnasau agos.

Dywedodd y gweinidog iechyd y byddai'n "ystyried" y problemau posibl o beidio â rhoi mwy o rym i un person dros un arall.

Dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar y byddai rhestr yn blaenoriaethu pwy sy'n cael gwneud y penderfyniad yn sicrhau "pwy sydd â'r gair olaf" ynglŷn â a all organau gael eu defnyddio os nad yw'r unigolyn wedi nodi nad yw am i'w organau gael eu defnyddio.

Y "diffyg tryloywder" oedd yn achosi pryder i'r AC Llafur Mick Antoniw.

"Dyna un o'r pethau sy'n cael ei ddweud wrthym ni gan dystion dro ar ôl tro.

"Dywedodd un arbenigwr wrthym ni os y gall unrhyw aelod o deulu wrthwynebu, yna bydd llai o organau ar gael i'w rhoi na sydd gennym ni nawr."

Clywodd y pwyllgor pan nad yw person wedi dewis peidio a chaniatáu defnydd o'i organau, mae cyfraith hawliau dynol yn golygu bod rhaid i deuluoedd a ffrindiau allu cynnig gwybodaeth ynglŷn a barn yr ymadawedig.

Ond dywedodd Ms Griffiths "Yn amlwg, mae'r rhestr heb flaenoriaeth yn achos pryder i rai ac rwy'n meddwl bod angen i ni ystyried hynny."

Mynnodd Ms Griffiths hefyd bod cyllideb o £2.9m yn ddigonol ar gyfer ymgyrch ddeng mlynedd i godi ymwybyddiaeth ac i addysgu'r cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â'r newid yn y ddeddf.

Mynegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams bryderon ynglŷn ag ymgyrch i godi ymwybyddiaeth fyddai â chyllideb o £50,000 y flwyddyn wedi'r ddwy flynedd gyntaf.

Dywedodd swyddogion y llywodraeth y byddai'n rhaid i'r ymgyrch sicrhau bod y cyhoedd yn deall y sefyllfa gan "na fyddai'r caniatâd yn ddilys pe na bai'r cyhoedd yn deall y system".

Daeth Phil Walton, rheolwr tîm nyrsys arbenigol rhoi organau de Cymru, hefyd i roi tystiolaeth.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.