Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol ar dai

Cymorth

Roedd cefnogaeth drawsbleidiol i bwysigrwydd defnyddio cartrefi gwag yn ystod dadl y Democratiaid Rhyddfrydol ar dai ar 20 Chwefror 2013.

Dechreuodd llefarydd y blaid ar dai Peter Black y ddadl trwy ddweud bod 31,644 o dai Cymru yn wag gyda 23,287 yn cael eu hystyried yn wag yn dymor hir.

Canmolodd gynllun 'Troi Tai'n Gartrefi' llywodraeth Cymru ond pwysleisiodd bod angen mynd ymhellach a chael strategaeth uchelgeisiol ehangach.

"Yn 2011/2012 daeth 176 o dai gwag nôl i ddefnydd trwy waith da awdurdodau lleol.

"Petaem ni'n parhau ar yr un cyflymdra byddai yn cymeryd dros ugain mlynedd i ddileu'r broblem."

Galwodd hefyd am swyddog penodedig ar bob awdurdod lleol i daclo'r broblem o dai gwag.

Cyfeiriodd Rhodri Glyn Thomas o Blaid Cymru at waith da awdurdodau lleol Wrecsam a Sir Ddinbych.

Awgrymodd hefyd y dylai lefelau treth cyngor a threth ar werth gael eu haddasu i geisio annog adnewyddu a defnyddio tai gwag.

Galwodd y Ceidwadwr Mark Isherwood am "strategaeth wedi ei chydlynu" gan ychwanegu nad oedd cynllun Troi Tai'n Gartrefi yn ddigon ar ei ben ei hun.

Wrth ymateb i'r alwad am strategaeth ehangach dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Huw Lewis ei fod eisiau osgoi gormod o strategaethau a'i fod eisiau rhoi cyfle i'r cynllun presennol ddatblygu.

Dywedodd y byddai cael swyddog penodedig ymhob awdurdod lleol yn gostus, ac y byddai cael cynghorau i gydweithio yn ffordd fwy effeithlon o daclo'r broblem.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.