Datganiad ar y sgandal cig ceffyl

Cymorth

Dylai siopau "gymryd rôl fwy rhagweithiol" i dawelu meddyliau cwsmeriaid bod eu bwyd nhw'n saff, yn dilyn y sgandal cig ceffyl, yn ôl dirprwy weinidog amaeth Cymru.

Mewn datganiad ar halogi cynnyrch cig eidion ar 19 Chwefror 2013 dywedodd Alun Davies wrth ACau bod hwn yn drosedd economaidd "annerbyniol".

Ond fe bwysleisiodd bod ganddo hyder yn y gadwyn fwyd yng Nghymru ac nad oedd yna unrhyw dystiolaeth bod yna risg i iechyd y cyhoedd.

"Rwyf wedi fy sicrhau bod y gadwyn fwyd yma yn gadarn ac nad yw'r digwyddiadau yma yn adlewyrchu unrhyw fethiannau systemig pellach yn ein cadwyn fwyd".

Dywedodd y gweinidog wrth yr aelodau bod bwyd yn cael ei brofi ar draws y gadwyn fwyd, gan gynnwys cynnyrch mewn archfarchnadoedd a bwydydd sy'n cael eu darparu i ysgolion, ysbytai a charchardai.

Yn ei ddatganiad yn y Senedd dywedodd: "Fe hoffwn weld siopau yn cymryd rôl fwy rhagweithiol i dawelu meddyliau cwsmeriaid bod yna system gadarn yn ei lle sy'n sicrhau eu diogelwch ac sy'n annog hyder yn eu cynnyrch."

"Mae gen i hyder yn y gadwyn fwyd a dwi'n benderfynol o ddelio gydag unrhyw fannau gwan sy'n dod i'r amlwg.

"Mae gonestrwydd ac ymddiriedaeth yn holl bwysig i hyder cwsmeriaid yn y gadwyn fwyd."

Fe bwysleisiodd Mr Davies bod hwn yn amlwg yn achos o gam-labelu troseddol a bod angen gweithio nawr i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto a bod y rhai sy'n gyfrifol yn cael eu herlyn.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.