Dadl ar ofal preswyl

Cymorth

Croesawodd cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol benderfyniad y llywodraeth i dderbyn holl argymhellion y pwyllgor yn ei hadroddiad ar ofal i henoed yn y cartref un ai yn llwyr neu mewn egwyddor yn ystod dadl ar ofal cymdeithasol ar 20 Chwefror 2013.

Dywedodd Mark Drakeford y byddai ei bwyllgor yn cadw golwg fanwl ar sut y bydd yr argymhellion yn cael eu gweithredu.

Wrth ymateb i'r ddadl, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol Gwenda Thomas bod y llywodraeth eisoes yn gweithredu ar argymhellion y pwyllgor.

Cynhaliodd y pwyllgor yr ymchwiliad yn ystod 2012 er mwyn ceisio darganfod sut ofal mae pobl hŷn yn ei dderbyn mewn cartrefi preswyl a sut allai'r gofal hwnnw newid yn y dyfodol.

Darganfu'r pwyllgor bod nifer cynyddol o bobl hŷn yn dewis derbyn gofal yn y cartref.

Mae disgwyl i boblogaeth Cymru heneiddio yn y dyfodol; roedd 18.6% o'r boblogaeth dros 65 oed yn 2010 ac mae'n debygol y bydd y ffigwr hwnnw'n cynyddu i fod oddeutu 26% erbyn 2035.

Yn ôl y pwyllgor, wrth i'r boblogaeth heneiddio gellir disgwyl cynnydd yn y nifer o bobl sy'n dioddef o'r mathau o salwch sy'n dueddol o effeithio ar bobl mewn oed, fel dementia.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd petai'r argymhellion yn cael eu gweithredu, byddai'n gwneud "gwahaniaeth go iawn" i ofal yng Nghymru.

Ychwanegodd Darren Millar ei fod yn pryderu am rai o'r problemau sy'n wynebu gofal yn y cartref, yn arbennig o ran eiriolaeth a chymorth i gleifion ar ôl gadael yr ysbyty.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams bod cymorth i gleifion ar ôl gadael yr ysbyty yn arbed arian yn y tymor hir ac y dylai fod ar gael i bawb.

Anogodd y llywodraeth i amlinellu ei chynlluniau ar dalu am ofal, gan i weinidogion yn Llundain gyhoeddi y byddai terfyn o £75,000 ar daliadau am ofal i gleifion yn Lloegr.

Dywedodd llefarydd pobl hŷn Plaid Cymru, Lindsay Whittle ei fod yn "croesawu canfyddiadau'r adroddiad ac os y cawn nhw eu gweithredu'n llawn fe fydd yn arwain at newidiadau positif o ran gofal yn y cartref.

"Mae Plaid Cymru wedi cydnabod yr angen i gryfhau rheoliadau cartrefi gofal, i sicrhau safon gofal ac i alluogi cleifion a'u teuluoedd i gael gafael ar y wybodaeth sydd ei angen arnyn nhw."

Dywedodd y gweinidog bod y Comisiynydd Pobl Hŷn yn gweithio gyda llywodraeth Cymru i wella gofal, gan gynnwys gwell eiriolaeth.

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.