Is-bwyllgor ysmygu
Mae meddygon wedi galw ar aelodau'r cynulliad i beidio â chael gwared ar y gwaharddiad ar ysmygu ar setiau ffilm yng Nghymru.
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor iechyd ar 19 Chwefror 2013, dywedodd cynrychiolwyr ar ran meddygon yng Nghymru nad oedd tystiolaeth y byddai'r diwydiant yn elwa petai actorion yn cael ysmygu mewn ffilmiau a dramâu teledu.
Mae pwyllgor arbennig yn ystyried a oes achos dros gyflwyno eithriad i'r gwaharddiad ysmygu er mwyn galluogi actorion i ysmygu ar y sgrîn.
Mae eithriad tebyg gan ddeddf Lloegr ac mae cwmnïau ffilm a theledu wedi galw am eithriad tebyg i Gymru.
Mae'r BBC yn un o'r cwmnïau sydd wedi galw am newid i'r gyfraith, er mwyn ceisio atal achosion o ddramâu yn cael eu symud i Loegr.
Yn eu tystiolaeth dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) na fyddai gwaharddiad o fudd i'r byd meddygol.
Dywedodd Dr Tony Calland, cadeirydd pwyllgor moesau'r BMA, na fyddai aelodau cynulliad yn "gwneud y gorau dros y bobl maen nhw'n eu cynrychioli" pe baen nhw'n cytuno i "lacio" y ddeddfwriaeth bresennol.
Doedd Mr Calland ddim yn credu bod y risg o gynyrchiadau yn symud i Loegr er mwyn ffilmio golygfeydd ysmygu "yn ei wneud yn iawn chwaith".
"Dyw'r ffaith ei fod yn digwydd yn Lloegr ddim yn ei wneud yn iawn," meddai.
Roedd Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) hefyd yn rhoi tystiolaeth, ac fe ddywedon nhw y byddai llacio'r gwaharddiad yn golygu y byddai gweithwyr yn anadlu mwg ail law, ac y gallai ysmygu ar setiau "roi'r golau gwyrdd i ddefnydd mwy eang o ysmygu mewn cynyrchiadau".
Mynnodd Dr Keir Lewis, ymgynghorydd mewn meddygaeth anadlol gyda'r RCP, y byddai dad normaleiddio ysmygu "yn arwain at gymdeithas well ac iachach".
Ond dywedodd Asiantaeth Ffilm Cymru y byddai cadw at y gwaharddiad llawn yn "llesteirio darpar gynyrchiadau'r dyfodol mewn awyrgylch sydd eisoes yn gymhleth", ac y byddai'r gwaharddiad "yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd cynhyrchydd yn edrych ar gyfleoedd eraill yn rhyngwladol ynghyd ag yn y DU".
Wrth ymateb i'r sylw am fwg ail law i weithwyr, dywedodd prif weithredwr yr Asiantaeth, Pauline Burt, nad oedd "neb yn gorfodi actorion ac aelodau o griw i dderbyn y swydd".
Ond dywedodd Mark Drakeford AC, cadeirydd pwyllgor iechyd y Cynulliad Cenedlaethol, bod hynny yn "slogan cyflogwyr drygionus ym mhob diwydiant".
Is-bwyllgor ar Reoliadau Mangreoedd |
|
|---|---|
~RS~q~RS~~RS~z~RS~00~RS~)