Cwestiynau i'r gweinidog tai

Cymorth

Pwysleisiodd y gweinidog adfywio bwysigrwydd hanes crefyddol Cymru tra'n ymateb i gwestiynau yn ymwneud â'i adran ar 20 Chwefror 2013.

Holodd y Ceidwadwr Darren Millar beth fyddai Huw Lewis a'r llywodraeth yn ei wneud i warchod adeiladau crefyddol Cymru sy'n rhan o "hanes o Anghydffurfiaeth Cymru" ac sy'n dadfeilio wrth i gynulleidfaoedd gadw draw.

"Rydw i am sicrhau bod hanes a stori gorffennol Cymru yn cael ei werthfawrogi," meddai'r gweinidog.

"Mae hyn yn bwysig am fod cymaint o adeiladau crefyddol Cymru mewn perygl."

Ychwanegodd bod ei adran "wrthi'n ystyried" creu "rhestr arbennig" o gapeli o bwys hanesyddol i Gymru ond bod ffyrdd eraill o sicrhau bod eglwysi'n cael eu gwerthfawrogi yn y "ffyrdd gorau a mwyaf defnyddiol" i gymunedau.

Fe fyddai'n ffafrio datblygu perthynas agos rhwng y llywodraeth ac aelodau o gynulleidfaoedd a'r enwadau er mwyn asesu'r ffordd orau o ddefnyddio'r adeiladau.

Holodd yr AC Llafur Mike Hedges a fyddai'r gweinidog yn barod i ystyried creu map o gapeli Cymru gyda lliwiau gwahanol ar gyfer pob enwad.

Dywedodd Mr Lewis ei fod yn gweld y budd o greu map o'r fath a bod Cadw wrthi'n ystyried creu datblygu "twristiaeth treftadaeth" mewn ffordd debyg.

Awgrymodd Simon Thomas o Blaid Cymru y dylai'r gweinidog wahodd y Pab newydd i Gymru i wneud pererindod i Ynys Enlli.

Ymysg y pynciau eraill dan sylw oedd newidiadau budd-dal, ardaloedd cadwraeth a'r stryd fawr yng Nghymru.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.