Datganiad ar fynediad at ddeddfwriaeth

Cymorth

Rhaid i ddeddfwriaeth Cymru fod yn "ddealladwy, yn eglur ac yn dangos yn glir beth fydd eu canlyniadau" yn ôl y cwnsler cyffredinol.

Gwnaeth Theodore Huckle QC ddatganiad ar fynediad at ddeddfwriaeth ar 19 Chwefror 2013.

Dywedodd bod "cynnydd mawr" wedi bod yn y broses o sicrhau bod deddfau Cymru i'w gweld ar-lein.

Cyhoeddodd yn Mehefin 2012 ei fod yn gweithio gyda'r Archifau Gwladol er mwyn gwella'r defnydd o'r wefan legislation.gov.uk er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at y system gyfreithiol.

Ond eglurodd nad yw'r gwaith ar ben, gan nad yw holl ddeddfau Cymru ar gael yn ddwyieithog eto.

"Rydw i'n siomedig iawn i orfod dweud bod cynllun oeddem ni'n credu oedd i fod wedi ei gwblhau ar ddechrau'r flwyddyn hon wedi ei ohirio tan y gwanwyn.

"Rydw i wedi pwysleisio pwysigrwydd gwneud hyn i Gymru wrth yr Archifau Gwladol ac fe fydda i'n cynnal y pwysau ac yn monitro'r sefyllfa."

Mynegodd nifer o ACau eu siom am y diffygion.

Mae'r cwnsler cyffredinol hefyd yn ystyried pa mor ymarferol fyddai datblygu rhaglen ar wahân i symleiddio a chyfuno deddfwriaeth sydd eisoes yn weithredol yng Nghymru.

Yn dilyn y datganiad, cytunodd yr aelodau'n unfrydol i gymeradwyo dau orchymyn cydsyniad deddfwriaethol.

Mae cynigion o'r fath yn nodi bod y cynulliad yn cytuno i adael i lywodraeth y Deyrnas Unedig gymeradwyo deddfau ar faterion sydd fel arfer o fewn cymhwysedd deddfwriaethol llywodraeth Cymru.

Mae'r ddau dan sylw yn ymwneud â sefydlu safonau perfformiad allyriadau carbon ac yn gysylltiedig â'r mesur mordwyo morol.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.