Datganiad addysg: Dysgu Digidol

Cymorth

Roedd croeso cyffredinol i ddatganiad y Gweinidog Addysg Leighton Andrews ar addysg ddigidol ar 19 Chwefror 2013.

Clywodd yr aelodau am sefyllfa ddiweddaraf yr adolygiad o gymwysterau mewn cysylltiad â thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Mae'r gweinidog wedi penodi arweinwyr digidol i wthio datblygiadau a defnydd o dechnoleg ddigidol yn ein hysgolion.

Fe fydd y tîm o wyth arweinydd digidol yn bencampwyr dysgu technoleg o ran athrawon a disgyblion.

Y tîm fydd yn gweithredu polisi Hwb - platfform dysgu digidol newydd y llywodraeth - ac yn ei gynnig i gonsortia, ysgolion ac awdurdodau lleol yn rhad ac am ddim.

Mynegodd Simon Thomas o Blaid Cymru ei siom bod y llywodraeth wedi penderfynu dod a'r cynllun o gynnig gliniaduron am ddim i blant difreintiedig gyflwynwyd yn ystod clymblaid Llafur-Plaid Cymru, Cymru'n Un.

Dywedodd Mr Andrews bod technoleg ddigidol wedi datblygu'n fawr er hynny, a chyfeirio'n benodol at gyfrifiaduron tabled, mwy hylaw mae ysgolion yn arbrofi gyda nhw ar hyn o bryd.

Honnodd bod y llywodraeth bellach yn buddsoddi llawer mwy o arian nag yr oedd mewn technoleg ddigidol.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.