Dadl ar losgi gwastraff

Cymorth

Galwodd y Ceidwadwr Nick Ramsay ar y llywodraeth i weithredu mewn cysylltiad â gronynnau sy'n cael eu rhyddhau gan losgyddion, gan ddweud mai nhw ydy'r "sylwedd peryclaf y mae dyn yn gwybod amdano".

Roedd yn siarad yn ystod dadl ar losgi gwastraff ar 6 Chwefror 2013.

Mynegodd Llŷr Huws Gruffydd hefyd bryderon ynglŷn â'r effaith y gallai'r gronynnau hyn eu cael ar iechyd pobl.

Roedd hi'n resyn gan William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol bod y llywodraeth ond wedi derbyn argymhelliad olaf y pwyllgor mewn egwyddor, gan ddweud bod "profion tocsicoleg heb gael eu cynnal".

Roedd yr argymhelliad yn galw ar y llywodraeth i "ystyried cyfrannu at ymchwil i weld a all gronynnau bach sy'n cael eu rhyddhau o losgyddion achosi niwed i iechyd".

"Heb wneud ymchwil fe fydd amheuon ynglŷn ag effaith llosgyddion ar iechyd yn parhau, felly rydym ni'n galw ar y llywodraeth i ystyried dichonoldeb cynnal ymchwil o'r fath," meddai Mr Powell.

Dywedodd aelod Plaid Cymru Bethan Jenkins bod rhai ymgyrchwyr yn erbyn llosgyddion yn teimlo nad oedd eu llais yn cael ei glywed, a bod gwaith y pwyllgor felly'n bwysig iddyn nhw wrth ystyried eu pryderon.

Roedd tair rhan i'r ddeiseb y penderfynodd y pwyllgor ymateb iddi.

Roedd y rhan gyntaf yn honni bod Prosiect Gwyrdd yn erbyn polisi'r llywodraeth o adael i gynghorau ddewis sut i gael gwared â gwastraff.

Partneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Casnewydd, Cyngor Bro Morgannwg a Chyngor Sir Fynwy yw'r Prosiect Gwyrdd, sy'n edrych am y ffordd orau o waredu'r gwastraff sy'n weddill wedi ailgylchu a chompostio.

Dywedodd Mr Powell bod y pwyllgor wedi dod i'r casgliad bod y pum awdurdod lleol wedi dewis gweithio ar y cyd, ac nad oedd felly'n groes i bolisi'r llywodraeth.

Roedd ail ran y ddeiseb yn honni bod yr arolwg rheoli gwastraff a gynhaliwyd gan gwmni ymchwil GfK NOP yn 2010/11 yn ddiffygiol, gan ei fod ond yn cynnig dau opsiwn o gael gwared ar wastraff.

Penderfynodd y pwyllgor nad oedd angen adolygu'r arolwg, wedi i dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu darbwyllo bod dim ffyrdd eraill o gael gwared ar wastraff.

Yn ôl y gymdeithas mae'n gamarweiniol i awgrymu bod ffyrdd amgenach i dirlenwi na llosgi.

Roedd trydedd rhan y ddeiseb yn galw ar y llywodraeth i wneud llosgi gwastraff a all gael ei ailgylchu yn anghyfreithlon erbyn 2020.

Wedi ystyried y dystiolaeth, argymhellodd y pwyllgor bod y llywodraeth yn cadw at y targed o sicrhau bod 70% o wastraff trefol yn cael ei ailgylchu erbyn 2025.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.