Dadl ar ddamweiniau ffyrdd

Cymorth

Unodd aelodau'r cynulliad i alw am barthau 20 m.y.a i geir o amgylch ysgolion ar 6 Chwefror 2013.

Arweiniodd Joyce Watson, Peter Black, Jocelyn Davies a Byron Davies ddadl aelodau unigol ar 6 Chwefror 2013 ar effaith damweiniau ffyrdd ar gerddwyr.

Eglurodd Ms Watson mai cerddwyr oedd 21% o'r rhai a laddwyd ac a anafwyd yn ddifrifol ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2011.

Mae ffigyrau'r llywodraeth hefyd yn dangos bod 24 o gerddwyr wedi eu lladd yn 2011 oherwydd damweiniau ar y ffyrdd a bod 1,130 wedi eu hanafu, 237 yn ddifrifol.

Pwysleisiodd Ms Watson fanteision terfynau cyflymder 20 m.y.a. o ran lleihau nifer y rhai sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol.

Hawliodd Ms Watson y byddai cynyddu nifer y parthau 20 m.y.a. yn "trawsnewid" cymunedau a chaniatáu i bobl gerdded yn ddiogel ac i ymwneud â'i gilydd.

Mewn parthau 20 m.y.a. mae "mwy o ymwneud cymdeithasol, mae seiclwyr yn teimlo'n fwy diogel, mae rhieni'n caniatáu i'w plant fynd allan i chwarae ac mae 20 m.y.a. yn gwneud i'r traffig lifo'n well hefyd" meddai.

Galwodd y Geidwadwraig Suzy Davies am ddarpariaeth yn y mesur teithio byw i sicrhau bod awdurdodau lleol yn creu parthau 20 m.y.a. lle mae ysgolion.

Dywedodd y byddai ffyrdd mwy diogel yn gwneud i rieni fod yn fwy parod i adael y car adref a cherdded gyda'i plant i'r ysgol, neu adael iddyn nhw deithio yno ar feic.

Gweithredu'r terfyn cyflymder oedd pryder Peter Black o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Galwodd am dwmpathau ffordd yn y parthau gan fynnu "na allwch chi fynd ynghynt na 20 m.y.a." gyda mesurau o'r fath am eu bod "mor effeithiol".

Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am weithredu parthau 20 m.y.a. yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r cynnig yn galw ar awdurdodau lleol i gynyddu nifer y parthau 20 milltir yr awr yng Nghymru.

Croesawodd y gweinidog y ddadl a dweud bod diogelwch ffyrdd yn "flaenoriaeth" i lywodraeth Cymru.

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo yn ddiwrthwynebiad.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.