Cwestiynau busnes a menter
Mae hi'n gyfiawn i ystyried cymryd camau er mwyn lleddfu pryderon busnesau ynglŷn â chystadleuaeth gan siopau elusen ar y stryd fawr yn ôl y gweinidog busnes.
Roedd Edwina Hart yn ateb cwestiynau aelodau yn ystod y sesiwn lawn ar 6 Chwefror 2013.
Wrth ymateb i gwestiwn gan Simon Thomas o Blaid Cymru, dywedodd Ms Hart y byddai'n hawdd iddi anwybyddu pryderon busnesau, ac mai gweithredu ydy'r "peth iawn i wneud".
Mae'r llywodraeth yn ymgynghori ar adolygiad gynhaliwyd gan yr Athro Brian Morgan, oedd yn awgrymu torri rhyddhad ardrethi busnes o 80% i 50% a thynhau y meini prawf cymhwysedd.
Y rheswm am yr awgrym yw bod y rhyddhad ardrethi, sef toriad yn faint o ardrethi busnes maen nhw'n gorfod ei dalu, yn rhoi mantais i siopau elusen, gan fod busnesau eraill yn talu'r raddfa'n llawn.
"Mae'r busnesau hyn yn rhoi gwaith i bobl, yn talu treth ac yswiriant gwladol, ac maen nhw'n cystadlu yn erbyn elusennau sy'n defnyddio gwirfoddolwyr," meddai'r gweinidog busnes.
Atebodd Ms Hart nifer o gwestiynau eraill hefyd, gan gynnwys un gan yr aelod Ceidwadol Russell George ar fand eang cyflym, ac un gan lefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Eluned Parrott ar ddinas-ranbarthau.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~56~RS~)