Gofyn i'r gweinidog cyllid gyfiawnhau'r £20,000 i Tafwyl

Cymorth

Gofynnwyd i'r gweinidog cyllid gyfiawnhau cyhoeddiad y gweinidog addysg y byddai'n rhoi cyllid o £20,000 i ŵyl Tafwyl wedi i Gyngor Caerdydd gyhoeddi eu bwriad i beidio â chyllido'r ŵyl.

Roedd Jane Hutt yn ymateb i gwestiynau ar gyllid ar 6 Chwefror 2013.

Croesawodd arweinydd y Ceidwadwyr ac aelod rhanbarth Canol De Cymru Andrew RT Davies y cyhoeddiad ond holodd beth fyddai'r goblygiadau i sefydliadau eraill sy'n wynebu toriadau cyllid.

"Gallwn ni i gyd enwi sefydliadau celfyddydol sy'n wynebu toriadau," meddai.

"Ai'ch bwriad chi fel gweinidog cyllid yw i drafod â holl adrannau'r llywodraeth fel bod gan bob sefydliad y cyfle i gael cyllid yn dilyn toriadau llywodraeth leol neu ai penderfyniad ar ei ben ei hun yw hwn gan y gweinidog addysg?

"Os felly, ym mhle mae hynny'n gadael sefydliadau eraill sydd heb gael y cyfle i wneud cais am gefnogaeth debyg?"

Ymatebodd Ms Hutt trwy ddweud bod awdurdodau lleol Cymru wedi cael setliad gwell nac awdurdodau eraill ar draws Prydain.

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parchu barn awdurdodau lleol o ran eu blaenoriaethau ar adeg anodd," ychwanegodd.

Holodd Simon Thomas o Blaid Cymru a fyddai hi'n rhoi gwersi cyllid i'r gweinidog addysg wedi iddo ymateb i drydar ganddo ar wefan twitter gan ddweud bod cynnig y cyllid i Tafwyl yn "fwy o arian" i'r ŵyl.

Dywedodd bod y penderfyniad yn enghraifft o Lafur mewn llywodraeth yn "achub croen" Llafur mewn llywodraeth leol.

"Bydden i wedi disgwyl y byddech chi wedi'ch plesio bod yr ŵyl yn cael cefnogaeth," meddai Ms Hutt.

Atebodd Ms Hutt gwestiynau hefyd ar bynciau amrywiol gan gynnwys taliadau annibyniaeth bersonol, y polisi caffael a'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.