Cwestiynau i'r prif weinidog
Cafodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei feirniadu am newid polisi'r llywodraeth ar brofion iechyd i bobl dros 50 tra'n cael ei holi ar 5 Chwefror 2013.
Un o addewidion maniffesto Llafur yn 2011 oedd cynnig y profion, ond bellach y bwriad yw eu cynnig ar-lein.
Dywedodd y gweinidog iechyd mewn datganiad ar 4 Chwefror bod cwestiynau ynglŷn â pha mor werthfawr fyddai hi i bawb gael prawf iechyd.
Beirniadodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol y cynnig.
Holodd Kirsty Williams pa mor wahanol y byddai'r profion i'r myrddiynau sydd ar gael ar-lein yn barod a beth oedd y cyfiawnhad dros y newid gan i Lafur hawlio mai nhw oedd â'r maniffesto wedi ei wirio fanylaf yn 2011.
Mynnodd Mr Jones bod y llywodraeth yn gweithredu ar yr addewid maniffesto a dywedodd bod yr holiadur "ar-lein yn gam cyntaf" ac yn cyfeirio pobl at eu meddyg os oes angen.
"Rwy'n edrych ymlaen i weld manylion y system gyfrifiadurol a sut y bydd yn sicrhau bod manylion cleifion yn aros yn breifat," oedd ymateb Ms Williams.
Aeth ymlaen wedyn i holi'r prif weinidog am wlâu mewn unedau gofal dwys.
"Does dim un wlad arall yn Ewrop sydd a llai o wlâu gofal dwys na Chymru," meddai.
"Oes ryfedd bod y gwasanaeth iechyd - yn eich cyfnod chi wrth y llyw ac i ddefnyddio'ch geiriau chi - 'ar ddymchwel'?"
Mynnodd y prif weinidog bod arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei gamddyfynnu gan ddweud mai ei ofn yw y bydd y gwasanaeth iechyd yn dymchwel os nad oes newidiadau.
Holodd arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies y prif weinidog am y nifer o fyfyrwyr sy'n gwneud cais am le prifysgol a gofynnodd arweinydd Plaid Cymru am gael ystadegau GDP penodol i Gymru.
Yn ogystal ag ymateb i gwestiynau arweinwyr y gwrthbleidiau, atebodd Mr Jones gwestiynau ar doriadau i fudd-daliadau, darpariaeth band llydan yn Sir Benfro ac undebau credyd.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~55~RS~)