Dadl fer: Cymunedau Cymraeg - y dyfodol

Cymorth

Cyhuddodd y gweinidog addysg Blaid Cymru o ganolbwyntio gormod ar y gorffennol wrth ymateb i ddadl fer arweinydd y blaid Leanne Wood ar ddyfodol yr iaith ar 30 Ionawr 2013.

Gofynnodd Leighton Andrews, sydd hefyd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg a oedd Plaid Cymru eisiau consensws ar sut i daclo canlyniadau'r cyfrifiad.

"Os ydych chi eisiau consensws, peidiwch â chwarae'r blame game.

"Rhaid i chi gydnabod pwy oedd â'r cyfrifoldeb dros yr iaith rhwng 2007-11," ychwanegodd, gan gyfeirio at gyfnod Plaid Cymru yn llywodraeth glymblaid Cymru'n Un.

Wrth agor y ddadl fer, dywedodd Ms Wood bod yr iaith yn berchen i bawb a bod yn rhaid gweithredu i atal tranc yr iaith.

Dangosodd cyfrifiad 2011 bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 582,000 i 562,000 ers 2001, er bod y boblogaeth wedi tyfu.

Ymateb Plaid Cymru yw dechrau ymgynghoriad ar ddyfodol y Gymraeg

Nod yr ymgynghoriad yw rhoi cynigion pendant gerbron y gellir eu gweithredu gan lywodraeth Plaid Cymru yn dilyn etholiad y Cynulliad yn 2016.

Mynnodd Mr Andrews bod ei lywodraeth yn gweithio'n ddygn i warchod yr iaith, gan egluro i'w strategaeth iaith, Iaith Byw: Iaith Fyw gael ei chyflwyno yn fuan wedi iddo gael cyfrifoldeb dros y Gymraeg.

"Mae llawer o waith i'w wneud i ddiogelu'r Gymraeg a bydd y llywodraeth yn ymateb yn gadarnhaol," meddai.

"Mae Iaith Byw: Iaith Fyw yn rhoi cyfeiriad clir i adrannau'r Llywodraeth ar sut i weithredu i sicrhau dyfodol i'r Gymraeg. Prif neges y strategaeth yw canolbwyntio ar gynyddu y defnydd o'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Yr allwedd i hyn oll yw'r economi a swyddi."

Ond nid oedd am fod yn gwbl negyddol, gan ddweud bod cymunedau newydd o siaradwyr Cymraeg wedi datblygu er bod y Gymraeg yn yr hen gadarnleoedd wedi gwanhau.

Beiodd aelod Llanelli siaradwyr Cymraeg am beidio â defnyddio'r iaith.

Yn ôl Keith Davies, heb un neu ddau aelod fyddai'n sicr o siarad Cymraeg yn dod i'w ymarfer côr, byddai'r aelodau'n siarad Saesneg â'i gilydd.

"Yn y pendraw ni sy'n mynd i achub yr iaith," mynnodd.

"Mae nifer o bobl yn Llanelli sy'n siarad Cymraeg yn gwrthod siarad Cymraeg achos maen nhw'n mynnu nad yw eu Cymraeg nhw'n 'ddigon da'."

Cytunodd ag awgrym Plaid Cymru bod rhaid i bolisïau cynllunio weithredu er lles y Gymraeg.

Siaradodd cynrychiolydd Dwyrain Abertawe Mike Hedges yn y Gymraeg am y tro cyntaf yn y siambr, gan ddweud bod angen i Gymry Cymraeg helpu'r rhai sy'n dysgu'r iaith.

"Yn Nhreforys, y bobl hŷn na fi yw'r bobl hapusaf a mwyaf hyderus i siarad Cymraeg ar y stryd.

"Rydym ni'n wynebu'r her o gael plant sy'n mynd i'r ysgol yn Gymraeg i siarad â'i gilydd yn Gymraeg.

"Hoffwn i'r bobl hynny sy'n rhugl yn Gymraeg ... i siarad Cymraeg â ni, ond yn arafach.

"Yn araf bach mae mynd ymhell."

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.