Dadl ar Uwch Gynghrair Cymru
Roedd cefnogaeth fawr i Uwch Gynghrair Cymru yn y Senedd ar 30 Ionawr 2013.
Roedd yr aelodau'n ymateb i ddadl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Uwch Gynghrair Cymru.
Cynhaliodd y pwyllgor ymchwiliad i'r gystadleuaeth yn ystod 2012 er mwyn dadansoddi sut mae'r gynghrair wedi datblygu ers iddi gael ei sefydlu yn 1992.
Ailstrwythurwyd y gynghrair ar gyfer tymor 2010 - 2011, gyda nifer y timau yn cael eu cwtogi o 18 i 12, ac roedd ystyried fformat y gystadleuaeth yn un o'r pynciau a drafodwyd gan y pwyllgor.
Ystyriodd y pwyllgor hefyd sut mae'r gystadleuaeth wedi datblygu, ei statws o fewn y byd chwaraeon ac yn y cyfryngau a seilwaith y clybiau sydd yn rhan, neu wedi bod yn rhan, o'r gynghrair.
Un o argymhellion y pwyllgor i'r Gweinidog Chwaraeon Huw Lewis yw y dylai'r llywodraeth ddatblygu strategaeth ar gyfer adeiladu caeau 3G neu 4G ledled Cymru.
Caeau artiffisial wedi ei gwneud o dywod a rwber yw caeaf 3G a 4G, ac mae ganddynt y fantais o ddygymod yn well â chael eu defnyddio'n aml.
Roedd y pwyllgor o'r farn y dylai'r gymuned chwarae rhan fwy ym mywyd clybiau'r gynghrair ac y byddai caeau artiffisial yn galluogi hyn ddigwydd, gan y gallent gael eu defnyddio'n aml heb eu difrodi.
Mae adroddiad y pwyllgor hefyd yn galw am i Gymdeithas Bêl-droed Cymru geisio datblygu perthynas agosach â'r llywodraeth a chlybiau'r uwch gynghrair.
Croesawodd y llywodraeth adroddiad y pwyllgor.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~02~RS~)