Dadl ar yr Undeb Ewropeaidd

Cymorth

Roedd anghytuno chwyrn rhwng y Ceidwadwyr a'r pleidiau eraill yn ystod dadl ar yr Undeb Ewropeaidd ar 30 Ionawr 2013.

Cynhaliwyd y ddadl yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig David Cameron ar 23 Ionawr 2013 y byddai'n cynnig refferendwm ar a ddylai'r DU barhau i fod yn aelod o'r undeb, petai'r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.

Cyflwynodd Plaid Cymru, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol y cynnig bod parhau i fod yn aelod o'r Undeb o fudd i Gymru.

Cynigiodd y Ceidwadwyr welliannau, yn cynnwys un oedd yn croesawu'r addewid am refferendwm.

Dywedodd Simon Thomas o Blaid Cymru bod y Ceidwadwyr yn troi eu cefnau ar Ewrop, ac yn mabwysiadu "meddylfryd Lloegr fach UKIP".

Ond dywedodd y Ceidwadwr Byron Davies tra bod y Ceidwadwyr yn cydnabod bod yna fanteision dros fod yn aelod o'r undeb, roedd y cynnig gwreiddiol yn "ddall yn ei deyrngarwch, ac yn fersiwn optimistaidd o'n perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd."

Ychwanegodd bod llawer wedi eu dadrithio gan Ewrop, a bod pobl Cymru yn haeddu cael lleisio eu barn ar y mater.

Fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn defnyddio diwygio'r Undeb Ewropeaidd i wanhau hawliau gweithwyr yn ôl yr aelod Llafur Mick Antoniw.

Anghytunodd y Ceidwadwyr yn gryf, gyda Antoinette Sandbach AC yn cyhuddo aelodau eraill o "godi bwganod".

Siaradodd William Powell AC ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol am bwysigrwydd yr UE i'r diwydiant amaethyddol, gan ddweud y byddai'n annhebygol y byddai'r diwydiant yn goroesi a thyfu heb gefnogaeth ariannol ac amgylcheddol.

Cyfeiriodd y Prif Weinidog Carwyn Jones at ei sgwrs gyda llysgennad yr Unol Daleithiau i danlinellu ei farn bod y refferendwm yn creu ansicrwydd economaidd.

Dywedodd bod y llysgennad wedi dweud wrtho: "Y broblem sydd gyda chi nawr yw pan y byddwch yn ymweld â America, bydd cwmnïau yn gofyn pam y dylem ni fuddsoddi yng Nghymru pan efallai y bydd Cymru yn gadael yr Undeb Ewropeaidd".

Trwy gydol y ddadl cyfeiriodd y Ceidwadwyr at sylwadau byd busnes oedd yn cefnogi araith David Cameron, gan ychwanegu nad oeddent yn troi cefn ar Ewrop, ond yn hytrach yn ceisio cael gwell cytundeb.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.